Elen Jones yn Uganda
Yn ystod Pythefnos Masnach Deg eleni, Elen Jones sydd yn gofyn i ni feddwl o ble ddaw ein brecwast…
Roedd Martin Luther King yn enwog am ddweud “cyn i chi orffen bwyta eich brecwast, rydych wedi dibynnu ar fwy na hanner y byd.”
Os ydych yn debyg i mi ac yn ffeindio’r boreau ychydig yn heriol, mae rhaid cychwyn gyda phaned o de neu goffi, neu hyd yn oed sudd ffrwyth.
Ar ôl diod, mae angen rhywbeth i lanw ein stumogau ac i’n cynnal hyd amser cinio – felly beth am fowlen o granola. Rwy’n tueddu i fwynhau fy un i gyda llaeth neu iogwrt, ac rwy’n aml yn mynd â banana cyn ei throi hi.
Ond o ble daw’r holl bethau yma?
Yn ôl pob tebyg mae eich coffi yn hanu o Golombia, eich te o Kenya, a’ch sudd oren o Dde Affrica.
Efallai bod fy manana Masnach Deg yn Ddominicaidd, fy ngranola yn gymysgedd o rawn reis o dde Asia, rhesins o Chile a siwgr o Falawi. Yn ffodus mae’r llaeth yn teithio cryn dipyn yn llai ac yn dod o ffermydd a chynhyrchwyr lleol yma yng Nghymru.
Ond yn wir, mae’r holl gynhwysion yma yn rhoi eich meddwl ar waith ynghylch o ble daw’r holl fwyd blasus, p’un ai o waelod yr heol neu ochr arall y blaned.
I ddathlu Pythefnos Masnach Deg eleni (29 Chwefror – 13 Mawrth) felly, byddwn yn achub ar y cyfle i gefnogi’r ffermwyr a gweithwyr sy’n ein cynorthwyo i roi bwyd ar ein byrddau.
Cyfuno lleol â Masnach Deg
Planhigion coffi
Ein hethos yn Cymru Masnach Deg yw ceisio newid eitemau sydd ddim yn cael eu cynhyrchu’n lleol am rhai Masnach Deg. Wrth gwrs mae’n wych os allwch chi brynu’r cynnyrch o’ch siop neu gynhyrchwr lleol, ond nid yw hyn bob amser yn bosibl.
A wyddoch chi, er gwaethaf ein dibyniaeth ar ffermwyr a gweithwyr ar gyfer ein hoff fwydydd a diodydd, mae tua 795 miliwn o bobl â diffyg maeth yn fyd eang. Yn cynnwys rhai o’r cynhyrchwyr sy’n cynorthwyo i dyfu’r bwyd rydym ni’n bwyta.
Trwy ddewis cynnyrch sydd wedi eu hardystio’n Fasnach Deg a’u cyfuno â chynnyrch wedi cyrchu’n lleol, gallwn gefnogi cynhyrchwyr lleol yn ogystal â’r rheiny dramor. Llaeth Cymreig yn eich paned Masnach Deg er enghraifft.
Cymaint yn fwy na phris gwell
Nid cyflog gwell yn unig y mae’r ffermwyr a gweithwyr yn ei dderbyn am eu cynnyrch sydd wedi ardystio’n Fasnach Deg.
Maent hefyd wedi cwrdd â safonau amgylcheddol ac yn ystyried sut i ddatblygu’r modd y maent yn tyfu eu cynnyrch mewn ffordd gynaliadwy. Felly mae eu dulliau yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd naturiol.
Yn unol â’r broses ardystio caiff y taliad premiwm ychwanegol sydd yn cael ei dderbyn ar gyfer y cynnyrch (ar ben eu swm safonol) ei rhoi mewn pot i’w rannu. Mae rhaid i’r grŵp neu gymuned o dyfwyr benderfynu’n ddemocrataidd sut i wario’r arian.
Ffa coffi
Yn aml o ganlyniad caiff ysgolion a chanolfannau iechyd eu hadeiladu a chefnogi, yn ogystal ag offer amaethyddol gwell i’w cynorthwyo i ddatblygu’r busnes ymhellach.
Felly yn ystod Pythefnos Masnach Deg eleni, meddyliwch yn galed o ble daw eich bwyd, cofiwch am y bobl sydd wedi gweithio’n galed i’w darparu ar eich rhan.
A’r tro nesaf rydych yn siopa edrychwch am y logo a meddyliwch am sut mae modd i’ch dewis cynorthwyo i greu byd tecach.
Mae Elen Jones yn Gydlynydd Cenedlaethol Cymru Masnach Deg a Phartner Hub Cymru Africa.