Huw Lewis
Fe fydd y Gweinidog Addysg Huw Lewis yn agor ysgol gynradd newydd gwerth £6.4m yn Shotton yn swyddogol heddiw.
Dechreuodd Ysgol Gynradd Tŷ Ffynnon dderbyn plant yn 2014, gyda lle ar gyfer 245 o ddisgyblion cynradd a 30 o ddisgyblion meithrin.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £4.5m ar gyfer y gost o adeiladu’r ysgol, sydd wedi cymryd lle Ysgol Fabanod Shotton ac Ysgol Iau Taliesin, gyda Chyngor Sir y Fflint hefyd yn darparu cyllid.
Cyllid ysgolion
Roedd y datblygiad yn rhan o Raglen Arian Pontio Llywodraeth Cymru, sydd bellach wedi cael ei disodli gan y rhaglen Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif.
Yn ogystal â naw ystafell ddosbarth yn yr adeilad newydd, mae hefyd dau ddosbarth adnoddau ar gyfer plant ag anawsterau dysgu cymedrol, a meithrinfa, neuadd, stiwdio, a chegin a chyfleusterau cymunedol.
“Mae’r disgyblion mor lwcus yn cael ysgol fendigedig ar gyfer y 21ain ganrif â’r dechnoleg a’r adnoddau diweddaraf un,” meddai Nia Goldsmith, y pennaeth.
“Mae’r disgyblion a’r staff wrth eu boddau yn cael gweithio mewn amgylchedd mor ardderchog.”