Mae’r Brifysgol Agored wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn dilyn cwymp yn nifer y myfyrwyr sy’n penderfynu gwneud cwrs addysg uwch rhan amser yng Nghymru.

11% yn llai sy’n astudio rhan amser yng Nghymru o gymharu â 2009/10, ac mae’r Brifysgol wedi rhybuddio y gall weld tuedd ar i lawr eto, o ystyried bod gan Loegr 40% yn llai o fyfyrwyr rhan amser.

Newidiadau i gyfundrefn gyllido addysg uwch yn Lloegr a arweiniodd at y cwymp ‘sylweddol’ hwn, yn ôl y Brifysgol Agored.

Dywedodd y Brifysgol, bod angen gweithredu “ar frys” er mwyn mynd i’r afael â’r cwymp ac “osgoi gwneud yr un camgymeriadau â Lloegr.”

Angen ‘blaenoriaethu’ addysg uwch rhan amser

“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu addysg uwch rhan amser er mwyn osgoi gweld yr un dirywiad trychinebus yn y sector a welwyd yn Lloegr,” meddai Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru.

“Mae addysg uwch rhan amser yn newid bywydau ac yn gwneud cyfraniad hanfodol at economi Cymru.

“Er mwyn i Gymru ffynnu’n economaidd ac yn gymdeithasol, ac er mwyn sicrhau bod y cyfle i astudio ar lefel prifysgol ar gael i oedolion, mae’n rhaid i ni sicrhau bod y drws i addysg uwch yn aros yn agored.”

Mae’r Brifysgol yn galw am ddatblygu system gyllido gynaliadwy ar gyfer addysg uwch yng Nghymru, a fydd yn ystyried anghenion ac amgylchiadau gwahanol fyfyrwyr rhan amser.

Galw am weithredu

Yn ei dogfen, ‘Mae Rhan Amser yn Bwysig: Addysg Uwch sy’n gweithio i Gymru’, mae’r Brifysgol yn galw am weithredu mewn saith maes penodol,

  • Parch cydradd i addysg uwch lawn amser ac addysg uwch ran amser
  • System gyllido addysg uwch gynaliadwy
  • Ehangu cyfleoedd i astudio’n rhan amser mewn cyflogaeth
  • Cefnogaeth i fentrau ehangu mynediad
  • Gwella gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar opsiynau astudio’n rhan amser
  • Benthyciadau astudio i ôl-raddedigion – ar gael i bob oedran ac ar gyfer pob dull astudio
  • Datblygu arloesedd digidol mewn addysg uwch a dysgu ar-lein ymhellach

‘Anghenion amrywiol’ 

“Rydym eisiau gweld ymroddiad i fuddsoddi mewn dysgu gydol oes a hyblyg yng Nghymru sy’n cydnabod anghenion amrywiol ein heconomi ac sy’n ymateb i anghenion ein poblogaeth o fyfyrwyr amrywiol,” meddai Beth Button, llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.

“Mae UCM Cymru yn falch o weithio ar y cyd â’r Brifysgol Agored yng Nghymru i sicrhau bargen deg i fyfyrwyr rhan-amser, gan sicrhau bod y system ôl-16 yn gwerthfawrogi holl ddysgu yn hafal ac yn gweithio tuag at Gymru fwy llewyrchus.”