Mae cwmni Amazon wedi dod i gytundeb gyda chwmni archfarchnad Morrisons.
Fel rhan o’r cytundeb fe fydd Amazon yn cynnig “cannoedd” o gynnyrch Morrisons trwy ei wasanaeth dosbarthu bwyd Amazon Pantry ac Amazon Prime Now.
Dywedodd yr archfarchnad y bydd y cytundeb yn golygu bod cwsmeriaid Amazon yn cael mynediad at gynnyrch ffres Morrisons a chynnyrch wedi’i rewi.
Wrth groesawu’r cytundeb, dywedodd prif weithredwr Morrisons David Potts y bydd yn gyfle i ehangu’r busnes.