Artistiaid Gorwelion 2016
Mae 12 artist wedi cael eu dewis i fod yn rhan o brosiect Gorwelion BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn.
Bwriad y prosiect, a sefydlwyd yn 2014, yw datblygu talent gerddorol newydd, drwy hyrwyddo a chynnig cymorth proffesiynol i rai o fandiau ac artistiaid mwyaf newydd y sin gerddoriaeth yng Nghymru.
Mae’n cefnogi artistiaid sy’n canu’n Gymraeg ac yn Saesneg, gyda thua chwech o’r rhai bu’n llwyddiannus eleni yn canu’n Gymraeg.
Y 12 artist sydd wedi eu dewis gan Gorwelion eleni yw:
- Afrocluster – Band naw-aelod sy’n chwarae cerddoriaeth funk a hip-hop sy’n dod o leoliadau ar draws Cymru
- Anelog – Band pump-aelod dwyieithog psychedelic sy’n gyfuniad o ddau deulu o Ddinbych
- Casey – Band pump-aelod craidd caled o Gasnewydd
- CaStLeS/ Cestyll – Band tri-aelod o Rosgadfan, Gwynedd
- Connah Evans – Canwr a chyfansoddwr o Ynys Môn
- Fleur Dy Lys – Band Cymraeg pedwar-aelod o Ynys Môn
- Danielle Lewis – Cantores gwerin-pop o Gei Newydd, Ceredigion
- Reuel Elijah – Canwr hip-hop, R&B, a pop o Gaerdydd
- Roughion – Cynhyrchwyr cerddoriaeth electronig o Aberystwyth
- Tibet – Band pedwar-aelod indie roc o Gaerdydd
- We’re No Heroes – Band tri-aelod indie disgo o Gaerdydd
- Ysgol Sul – Band Cymraeg tri-aelod indie roc o Gaerfyrddin
Maida Vale
Bydd y 12 yn elwa ar gael sylw ar wasanaethau BBC Cymru, sesiwn recordio yn BBC Maida Vale, pecynnau hyrwyddo, mentora cerddorol, cyfleoedd i berfformio mewn gwyliau yng Nghymru ac mewn gwyliau rhyngwladol.
Cafodd y prosiect 200 o geisiadau i gyd yn y gystadleuaeth eleni a chafodd y 12 eu dewis gan banel o arbenigwyr o’r sector gerddoriaeth.
“Yr hyn dwi wir yn ei fwynhau am gynllun Gorwelion yw’r cyfle i ddod i adnabod 12 artist gymaint yn well. Mae cael dilyn siwrne’r grwpiau dros y flwyddyn – o’r holl wylie cerddorol i stiwdios enwog Maida Vale – yn hynod gyffrous,” meddai Lisa Gwilym, cyflwynydd ar BBC Radio Cymru.
“Ond yn bwysicach, mae cael rhannu’r gerddoriaeth dwi’n ei chwarae’n wythnosol ar C2 gyda chynulleidfaoedd newydd ledled Prydain a thu hwnt yn golygu cymaint i mi. Fedrai’m aros i weld a chlywed yr amrywiaeth o gerddoriaeth fydd yn cael ei chynnig gan artistiaid Gorwelion eleni.”
Dywedodd Connah Evans, “Dwi methu credu fy mod i’n mynd i fod yn rhan o Gorwelion eleni! Rydw i wedi ymgeisio o’r blaen ond heb fod yn llwyddiannus felly mae’n dangos bod rhaid i chi barhau!
“Rydw i’n edrych ymlaen at gyfarfod yr artistiaid eraill i gyd o ledled Cymru, yn ogystal â’r cyfleoedd perfformio anhygoel sy’n bosib.”