Leonardo DiCaprio gyda'i Oscar
Wedi blynyddoedd o siom yn yr Oscars, fe gipiodd Leonardo DiCaprio y wobr am yr actor gorau yn y seremoni yn Los Angeles neithiwr.
Cafodd DiCaprio, 41, ei enwebu ynghyd a’r actorion Eddie Redmayne, Bryan Cranston, Matt Damon a Michael Fassbender, gan ennill yr Oscar am ei rôl yn y ffilm The Revenant.
Cafodd ei enwebu am Oscar am y tro cyntaf 23 mlynedd yn ôl ac mae wedi cael ei enwebu bedair gwaith ers hynny – ond nid oedd wedi cipio’r wobr tan eleni.
Roedd y Gymraes Sian Grigg, o Gaerdydd, wedi’i henwebu am wneud colur Leonardo DiCaprio yn ‘The Revenant’ ond ni lwyddodd i gipio gwobr eleni.
Spotlight
Y ffilm Spotlight, sy’n adrodd hanes camdriniaeth o fewn yr Eglwys Gatholig, a enillodd y wobr am y ffilm orau.
Seren y ffilm Room, Brie Larson, a enillodd yr Oscar am yr actores orau, gyda Mark Rylance yn cipio’r wobr am yr actor cynorthwyol gorau am ei rol yn Bridge Of Spies.
Alicia Vikander gafodd yr Oscar am yr actores gynorthwyol orau am ei rol yn The Danish Girl.
Fe enillodd Alejandro G Inarritu y wobr am y cyfarwyddwr gorau am The Revenant.
Cafodd y nifer fwyaf o wobrwyon eu hennill gan Mad Max: Fury Road, a enillodd gyfanswm o chwe Oscar, gyda The Revenant yn ennill tair gwobr a Sportlight yn cipio dwy.
Y canwr Sam Smith a enillodd yr Oscar am y gan orau am Writing’s On The Wall, o’r ffilm James Bond diweddaraf, Spectre.
Fe enillodd y ffilm Amy, am y gantores Amy Winehouse, Oscar am y ffilm ddogfen orau.
Hollywood yn ‘hiliol’
Chris Rock oedd cyflwynydd y noson, gan agor y seremoni drwy gyhoeddi fod Hollywood yn “hiliol”.
Fe gyfaddefodd y comedïwr ei fod wedi ystyried boicotio’r seremoni oherwydd diffyg yr enwebiadau i actorion du eleni.
Cafodd protestiadau eu cynnal y tu allan i’r seremoni hefyd.