Sian Grigg wedi gwneud colur Leonardo DiCaprio yn y ffilm 'The Revenant'
Mae tair Cymraes yn gobeithio cipio gwobrau wrth i seremoni’r Oscars gael ei chynnal yn Hollywood nos Sul.

Mae Sian Grigg (Colur) wedi’i henwebu fel unigolyn, tra bod Kimberley Warner (Dogfen Fer) a Sara Bennett (Effeithiau Gweledol) yn rhan o ddau enwebiad arall.

Sian Grigg

Roedd Sian Grigg, Cymraes Gymraeg o Gaerdydd, yn gyfrifol am wneud colur Leonardo DiCaprio ar gyfer y ffilm ‘The Revenant’.

Ymhlith ei chyfrifoldebau roedd creu prostheteg a chreu steil gwallt a cholur DiCaprio.

Bu Grigg yn cydweithio â DiCaprio ar ffilm ‘Titanic’ yn y gorffennol.

Kimberley Warner

Kimberley Warner yw cyd-gynhyrchydd y ddogfen fer ‘Spectres of the Shoah’ am y ffilm ‘Shoah’ gan Claude Lanzmann, sy’n adrodd hanes yr Holocost drwy rannu profiadau nifer o unigolion oedd wedi profi’r erchylltra drostyn nhw eu hunain.

Bydd ei thad a’i ffrind yn y seremoni gyda hi, ac mi fydd hi’n gwisgo gwisg a gafodd ei dylunio gan y Gymraes Nina Morgan-Jones a gemwaith Clogau.

Sara Bennett

Yn y categori Effeithiau Gweledol y mae Sara Bennett wedi’i henwebu ar gyfer ei gwaith ar y ffilm ‘Ex Machina’.

Mae hi’n gweithio i gwmni Milk o Gaerdydd.

Dim ond tair dynes sydd wedi derbyn enwebiad yn y categori hwn erioed.