Morgan Owen
Dim ond un ffordd sydd o farchnata’n cynnyrch Cymreig ni’n iawn, yn ôl Morgan Owen…
Dewisais y teitl uchod yn fwriadol am fod iddo ddwy ystyr bosib, a’r naill yn wrthwyneb i’r llall.
A dechrau’n deg felly gyda’r ystyr gadarnhaol: gwerthu Cymru trwy werthu cynnyrch Cymreig i weddill y byd, a thrwy hynny, ei hysbysu o’n harwahanrwydd a’n cyfoeth diwylliannol unigryw.
Hynny yw, allforio peth o hanfod Cymru a’i chynnyrch i wledydd pell ac agos fel y dônt yn ymwybodol ohonom ni ac ein gwlad.
Gwneir hynny trwy werthu cynnyrch Cymreig fel cynnyrch Cymreig, gan dynnu ar y pethau hynny sydd yn nodweddu Cymru ac yn unigryw iddi.
Diau mai dyma’r ffordd fwyaf effeithlon o dystio i fodolaeth gwlad a chenedl yn y byd masnachol a chyfalafol sydd ohoni― a chyn belled ag y bo’r drefn honno’n parhau, ei defnyddio felly fydd ein cyfle gorau i fynegi ein harwahanrwydd yn rhyngwladol.
Ar delerau pwy?
Ond, fel y dylai fod yn amlwg, nid yw pethau mor syml â hynny. Annelwig yw’r ffin rhwng gwerthu Cymru felly i weddill y byd ar ein telerau ni ein hunain a ‘gwerthu Cymru allan’ fel petai, a hynny ar delerau pobl eraill.
Hynny yw, yn hytrach na defnyddio unigrywiaeth Cymru i werthu ei chynnyrch, anwybyddu popeth sydd yn unigryw i Gymru er mwyn gwerthu ei chynnyrch i bobl eraill mewn modd sydd yn unffurf â’u disgwyliadau nhw.
Mewn geiriau eraill, gwastatáu a charthu olion Cymreig cynnyrch Cymru a’i droi’n rhywbeth cyffredinol a allai fod wedi dod o unrhyw le.
Dyna’r ystyr negyddol, ac o’r ddwy ystyr hyn, yr ail, ysywaeth, sy’n llywodraethu yng Nghymru heddiw.
Unigryw
Perthnasedd yr uchod yw bod lle’r Gymraeg yn y cyfryw fasnachu yn hollol allweddol.
Os ydym am werthu cynnyrch Cymreig sydd yn tystio i ac yn brolio arwahanrwydd Cymru, ni ellir gwneud hynny heb y Gymraeg.
Dwedaf hynny am y rheswm sylfaenol mai’r iaith Gymraeg yw’r unig beth unigryw i Gymru.
Mae gwerthu a masnachu nwyddau a chynnyrch Cymru heb y Gymraeg yn eu troi yn gynnyrch a nwyddau rhanbarthol ar y gorau, ac ar y gwaetha, mae’n eu gwneud yn ddi-wlad ac yn hollol annodweddiadol.
Af ymlaen i drafod sut y mae felly, gan gyfeirio at enghreifftiau cyfarwydd.
Cwrw Cymreig?
Cyfathrebais y llynedd â bragdy Cymreig sydd wedi seilio hunaniaeth ei brand ar Geltigrwydd honedig Cymru. Digon teg, dwedech. Onid gwlad Geltaidd yw Cymru?
Nid fel y cyfryw. Nid oes y fath beth â phobl Geltaidd yn bodoli. Os ydych yn edrych ar DNA y bobl yr ystyrir eu bod yn Geltiaid, megis pobl yr Iwerddon a Chymru, ceir eu bod yn debyg iawn i bobl Lloegr a Gogledd Ffrainc, ac yn debycaf oll i bobl Gwlad y Basg.
Hyd y gwn i, does neb yn ystyried bod Lloegr a rhannau o Ffrainc a Gogledd Sbaen yn Geltaidd! Ond bid a fo am DNA, ffôl fyddai credu bod unrhyw berthynas rhwng DNA a hunaniaeth.
Y pwynt i’w nodi yma yw nad yw gwlad na phobl yn Geltaidd. Yr unig bethau y gellir dweud eu bod yn Geltaidd yw’r ieithoedd Celtaidd, megis y Gymraeg hithau.
Ond, fe synnech wrth glywed nad yw’r bragdy hwn yn defnyddio’r un gair o Gymraeg ar ei gynnyrch.
Gwerthant gynnyrch Cymreig, gan wneud sioe enfawr o’r ffaith eu bod o Gymru, heb ddefnyddio’r un peth hollol Gymreig am Gymru, sef ei phriod iaith.
Pan ofynnais iddynt pam na ddefnyddiant y Gymraeg, cefais yr ateb mai gwerthu eu cynnyrch y tu allan i Gymru a wnânt ar y cyfan, ac felly mai rhwystr fyddai’r iaith i ddarpar brynwyr gweddill y byd.
Atebais innau fod y gwinoedd gorau o Ffrainc wedi eu labelu’n uniaith Ffrangeg, ond er hynny, does neb hyd y gwn i yn cael anhawster agor y poteli uniaith hyn ac yfed eu cynnwys heb gymorth canllawiau Saesneg!
Cystadleuaeth
Ond gwaeth na hynny yw’r cwmnïau Cymreig gyda pherchnogion Cymraeg sydd yn gwerthu eu cynnyrch Cymreig yn uniaith Saesneg. Nid hawdd deall eu cymhellion.
Yn fy mhrofiad i, mae pobl o’r tu allan i Gymru yn gwirioni ar y Gymraeg, sydd yn iaith mor wahanol i’r uniaith y maen nhw wedi ei chlywed o’r blaen.
Mewn cyd-destun rhyngwladol, mae’r gair llaeth yn dal llygaid rhywun mewn môr o milk, a defnyddio enghraifft syml iawn. Unwaith yn rhagor, mae’n rhaid datgan mai’r Gymraeg yw’r peth mwyaf unigryw i Gymru, a’r unig bell hollol a thrwyadl Gymreig.
Mae enwau Saesneg ar gynhyrchion Cymraeg yn eu gosod mewn cystadleuaeth â chynhyrchion Saesneg, ac yn amlwg, ni all cynhyrchion Cymreig Saesneg eu hiaith gystadlu â chynhyrchion Seisnig Saesneg eu hiaith.
Dyna yw eu harbenigedd a’u harwahanrwydd nhw. Onid gorffwylledd masnachol yw dileu’r un peth sydd yn rhoi hunaniaeth mor gadarn i gynnyrch Cymreig, sef y Gymraeg?
Cenedl, nid rhanbarth
Heb y Gymraeg, rhanbarth Seisnig a Saesneg yw Cymru, ym myd masnach yn gymaint ag ym myd gwleidyddiaeth, diwylliant, addysg, ac yn y blaen.
Ond mae’r enillion a ddaw o ddefnyddio’r Gymraeg yn helaeth ym masnach yn ddeublyg.
Yn ogystal â chreu a hybu brand unigryw Gymreig, mae’n normaleiddio’r Gymraeg ac yn tanseilio hegemoni’r Saesneg yng Nghymru.
Po fwyaf a welir o’r Gymraeg yng nghyswllt busnes, mwyaf hyderus y bydd ei siaradwyr.
Pa beth a erys amdani, felly? Onid yw’n ddigon eglur ein bod oll ar ein hennill yng Nghymru wrth ddefnyddio’r Gymraeg i werthu ein cynnyrch Cymreig?
Mae Morgan Owen yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.