Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad pwyllgor cynllunio cyngor Gwynedd i wrthod cais i adeiladu dros dri chant o dai yn ardal Bangor.
Ysgrifennodd y mudiad at bwyllgor cynllunio y cyngor ychydig fisoedd yn ôl gan eu hatgoffa o’u pwerau newydd i wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ar yr iaith.
Cwmni Morbaine oedd wedi cyflwyno’r cais i godi 366 o dai newydd yn ardal Pen-y-ffridd.
Dywedodd Bethan Ruth, swyddog maes lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni’n croesawu penderfyniad y cynghorwyr i bleidleisio yn erbyn y cais. Mae statws y Gymraeg yn y system gynllunio wedi cael ei chryfhau yn ddiweddar, ac rydyn ni’n falch bod cynghorwyr wedi defnyddio’r pwerau hynny.
“Dylai unrhyw ddatblygiadau adlewyrchu’r angen lleol am dai a rhoi buddiannau’r gymuned yn gyntaf, yn hytrach na buddiannaudatblygwyr.”