Gwaith Tata, Port Talbot
Mae’r gwrthbleidiau ym mae Caerdydd wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i i achub y diwydiant dur yng Nghymru yn dilyn datganiad brys gan y Prif Weinidog yn y Senedd heddiw.
Dywedodd Plaid Cymru ei fod wedi methu ag amlinellu unrhyw gamau arwyddocaol y byddai ei lywodraeth yn cymryd i helpu gweithwyr dur tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud bod angen iddyn nhw fynd yn bellach wrth greu amodau ffafriol ar gyfer y diwydiant dur yng Nghymru.
Meddai’r Ceidwadwyr Cymreig bod angen i’r Llywodraeth ddefnyddio’r pwerau trethi busnes ac archwilio sut y gallai prosiectau seilwaith, fel ffordd liniaru’r M4, ysgogi’r galw am ddur Gymreig.
Datganiad
Yn ei ddatganiad, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn credu bod dyfodol ar gyfer y diwydiant dur yng Nghymru a bod ei Lywodraeth yn gwneud popeth y gallan nhw i sicrhau bod dyfodol i’r gweithfeydd ym Mhort Talbot, Llanwern, Shotton a Throstre.
Meddai ei fod yn “siomedig” bod Llywodraeth y DU wedi methu mynd i’r afael â’r anawsterau sylfaenol mewn cynhyrchu dur a’u bod wedi bod yn rhy araf i ymateb i’r argyfwng.
Ychwanegodd ei fod wedi gydag un prynwr posib y bore ma a bod ganddo dim o swyddogion yn Llundain heddiw yn cynnal trafodaethau cyn iddo gyfarfod David Cameron yfory.
O ran cynlluniau pendant i helpu’r diwydiant meddai y byddai’n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd rheolaeth o’r gweithfeydd os na fydd prynwr o fewn y cyfnod gwerthu. Meddai fod Llywodraeth Cymru yn barod i gyfrannu arian ac adnoddau i gefnogi gwladoli dros dro.
Meddai hefyd bod angen i Lywodraeth y DU negodi trefn tariff realistig ar lefel yr Undeb Ewropeaidd er mwyn atal dur rhad o Tsienia a bod angen strategaeth tymor hir i ostwng prisiau ynni a gwella effeithlonrwydd ynni ar gyfer diwydiannau.
Plaid Cymru
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood bod y Prif Weinidog wedi galw am gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau dyfodol y diwydiant, ond ei fod wedi methu amlinellu unrhyw gamau arwyddocaol y byddai ei lywodraeth ei hun eu cymryd.
Meddai: “Yn gyntaf, rwyf eisiau i’r gweithwyr dur a’u teuluoedd wybod na fydd Plaid Cymru yn troi cefn arnynt – byddwn yn parhau yn blaid fydd yn rhoi atebion cadarnhaol i’r argyfwng presennol.
“O ran ymateb Llywodraeth Lafur Cymru, mae’n siomedig nad oedd y gweithredu y galwodd y Prif Weinidog amdano heddiw yn cynnwys unrhyw symudiadau pendant o’i eiddo ei hun. Does fawr o hyder y bydd Llywodraeth y DG yn rhoi ateb. Rhaid i ni glywed beth yw cynllun Llywodraeth Cymru. Chawson ni mo hynny y prynhawn yma.
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy i greu amodau ffafriol ar gyfer y diwydiant dur Cymru, meddai Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Meddai: “Mae diwydiant dur Cymru o bwysigrwydd strategol cenedlaethol ac mae’n rhaid ei sicrhau ar gyfer y tymor hir. Mae meddwl am Brydain nad yw’n cynhyrchu ei dur ei hun tu hwnt i amgyffred.
“Mae heddiw yn gyfle i wneud datganiad clir i ddarpar brynwyr y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn helpu creu amodau ffafriol. Mae’r cyfle hwnnw wedi ei golli heddiw gan y methiant i ddileu ardrethi busnes ar beiriannau trwm.”
Ceidwadwyr Cymreig
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fod y diwydiant dur yn hanfodol i Gymru, a’r DU, a’i bod yn bwysig “ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol hirdymor, hyfyw.
Meddai: “Rwy’n croesawu’r gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i gefnogi’r diwydiant – gan gynnwys gweithredu ar gostau ynni, caffael ac yn erbyn dympio dur rhad yn annheg.
“Mae angen gweithredu clir yng Nghymru hefyd; ac fel rhan o’r dull partneriaeth hwn, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r pŵer ardrethi busnes sydd ar gael iddo, ac yn archwilio sut mae prosiectau seilwaith – megis ffordd liniaru’r M4 – yn gallu ysgogi’r galw am ddur Cymru, fel y mae’r Prif Weinidog wedi cydnabod.”