Mae Geordan Burress wedi dysgu Cymraeg i'w hun gan ddibynnu'n llwyr ar adnoddau a chlipiau fideo oddi ar y we
O wrando ar Geordan Burress yn siarad, mae’n anodd credu mai dwywaith yn unig y mae hi erioed wedi cael sgwrs wyneb-yn-wyneb â rhywun yn y Gymraeg.
Wedi dweud hynny, mae’n hawdd deall pam nad yw hi’n cael y cyfle i ddefnyddio’r iaith yn aml o ystyried ei magwraeth yn nhalaith Ohio yn yr Unol Daleithiau.
Daeth Geordan Burress ar draws yr iaith ar ôl gwrando ar gerddoriaeth artistiaid megis Gruff Rhys, fu’n teithio yn America gyda’i brosiect cerddorol diweddar ‘American Interior’.
Ac er nad yw hi’n dod o deulu Cymraeg mae hi wedi bod wrthi ers dros bedair blynedd bellach yn dysgu ei hun dros y we.
Fe gyhoeddodd hi fideo ar ei sianel YouTube yn ddiweddar er mwyn ceisio dod o hyd i ragor o siaradwyr Cymraeg, ac mae hi eisoes wedi cael ei gwylio dros 4,000 o weithiau:
Mae Geordan Burress, sydd yn wreiddiol o Cleveland, Ohio bellach yn byw yn Dayton, Ohio ac yn fyfyrwraig raddedig sydd yn gweithio yn un o neuaddau preswyl prifysgol y ddinas.
Cerddoriaeth Gymraeg daniodd ei chwilfrydedd yn y Gymraeg i ddechrau, ac fe hi’n ddigon ffodus i gyfarfod ag un o’i harwyr cerddorol pan fuodd o draw yn America.
“Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ar ôl gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n hoff iawn o gerddoriaeth Gruff Rhys ac oeddwn i’n gwrando ar ei gerddoriaeth lot pan wnes i benderfynu meddwl am ddysgu, ond ro’n i jyst eisiau dysgu ‘chydig bach. Ond ar ôl ddechrau, roeddwn i eisiau dysgu mwy a mwy, a dw i ddim wedi stopio ers hynny!
“Dw i’n gwrando a’r bob math o gerddoriaeth Gymraeg – rhai o fy hoff fandiau yw Llwybr Llaethog, SFA, Cate Le Bon, Gwenno, Jakokoyak, a Dau Cefn.
“Dw i’n ffan mawr o Gruff Rhys a’r Super Furry Animals! Dw i’n caru cerddoriaeth Gruff ac yn ffodus dw i wedi cyfarfod Gruff ddwywaith yn y gorffennol, ond erioed wedi gweld SFA yn fyw.”
‘Meddwl ei fod yn cŵl’
Yn syfrdanol mae Geordan Burress wedi dysgu ei Chymraeg i gyd oddi ar y we, er ei bod hi’n cyfaddef bod teulu a ffrindiau weithiau’n chwilfrydig ynglŷn â pham mae hi wedi dewis yr iaith.
“Mae ‘na gyrsiau syml iawn i ddysgwyr (SaySomethingInWelsh neu SSIW) ac ar ôl defnyddio hynny, wnes i ddefnyddio cyrsiau BBC Wales i ddysgwyr, fel ‘Catchphrase’. Dw i hefyd wedi gwylio lot o glipiau ar y we!” meddai.
“Mae pobl yn meddwl ei bod hi’n wahanol iawn a ‘chydig yn annisgwyl mod i’n dysgu Cymraeg. Dydyn nhw ddim yn deall pam mae gen i ddiddordeb mewn Cymraeg a Chymru, ond maen nhw’n cefnogi fi ac yn meddwl mae’n cŵl!”
Rhyw ddydd fe hoffai Geordan Burress groesi Môr yr Iwerydd a chael y cyfle i sgwrsio â mwy o siaradwyr yr iaith.
“Mi hoffwn i ymweld â Chymru i weld y wlad, a siarad mwy o’r iaith gyda phobol o Gymru!” ychwanegodd.
Stori: Iolo Cheung