Mewn cyfarfod arbennig yn y Senedd heddiw, mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o fethu â delio â’r “anawsterau gwaelodol” o gynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig.
Fe gyflwynodd gynllun tri chynnig i fynd i’r afael ag argyfwng y diwydiant dur gerbron yr ACau wrth iddyn nhw ail-ymgynnull ym Mae Caerdydd.
Nododd y dylai Llywodraeth Prydain sicrhau perchnogaeth gyhoeddus o’r gweithfeydd dur, os nad oes modd dod o hyd i brynwr.
Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Prydain drafod tariffau realistig ynglŷn â dympio rhad, ynghyd â sicrhau strategaeth tymor hir i leihau prisiau ynni yn y diwydiannau dur.
‘Perchenogi’
Wrth i gwmni dur Tata baratoi at werthu eu gweithfeydd, dywedodd Carwyn Jones y dylent “ganiatáu amser digonol a realistig i brynwyr posib ystyried y cynnig. Dylai hyn fod yn fisoedd, nid wythnosau.”
Dywedodd ei fod wedi siarad ag un prynwr posib y bore yma ac yn cydweithio â Llywodraeth Prydain wrth drafod y diddordeb.
Er hyn, dywedodd pe nad oes modd dod o hyd i brynwyr, dylai Llywodraeth Prydain berchenogi’r gweithfeydd.
Esboniodd y byddai Llywodraeth Cymru’n barod i gyfrannu o’r ffynonellau arian maen nhw eisoes wedi’u addo fel cefnogaeth.
Ond, does gan Lywodraeth Cymru “ddim o’r ffynonellau i berchenogi na rheoli gweithfeydd Tata.”
‘Siomedig’
“Dw i’n siomedig fod Llywodraeth y DU wedi methu delio â’r anawsterau gwaelodol i gynhyrchu dur yn y DU mewn ffordd systematig,” meddai Carwyn Jones.
Dywedodd fod pryderon am gostau uchel egni a dympio dur rhad wedi “bodoli ers blynyddoedd.”
“Mae gweithredu Llywodraeth y DU wedi bod yn araf ac yn annigonol. Mae’n amlwg nad ydyn nhw wedi gwthio’n ddigon caled am fargen ar lefel yr UE i amddiffyn ein cynnyrch rhag effeithiau marchnad dympio dur.”
Er hyn, dywedodd bod Llywodraeth Cymru’n “cydweithio’n agos” â Llywodraeth y DU, yr undebau llafur a chynrychiolwyr Tata “i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dyfodol cynaliadwy a hyfyw [i’r diwydiant dur].”
Tasglu
Yn gynharach heddiw, fe wnaeth Tasglu gyfarfod, grŵp a sefydlwyd ym mis Ionawr gan Lywodraeth Cymru wedi’r cyhoeddiad cyntaf am y diswyddiadau.
Fe wnaeth Gweinidog yr Economi gyhoeddi mai Roger Maggs fydd yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd Ardal Fenter Glannau Port Talbot, sy’n sylfaenydd cwmni buddsoddi Celtic House Venture Partners.
Ychwanegodd Carwyn Jones bod cynllun yn rhan o’r ardal fenter i gynnig cyfraddau busnes arbennig, a bod y cyfnod ymgeisio yn agor yr wythnos hon ac yn parhau tan Fedi 30.
‘Cymunedau cyfan’
“Mae Port Talbot, Llanwern, Shotton a Throstre wedi cynhyrchu dur o ansawdd uchel ers blynyddoedd. Mae cymunedau cyfan wedi tyfu o gwmpas y gweithfeydd hynny ac mae bywydau miloedd o deuluoedd yn dibynnu ar y penderfyniadau sy’n cael eu cynnal nawr. Y teuluoedd a’r ardaloedd hynny yw prif flaenoriaeth y Llywodraeth hon nawr ac yn y dyfodol.
“Gall y gweithfeydd hyn ddim cau. Gallwn ni ddim gadael i ddur Cymru – dur Prydain – farw. Gall Prydain ddim wynebu’r unfed ganrif ar hugain lle dy’n ni’n dibynnu’n unig ar ddur wedi’i fewnforio.
“Mae dur yn hollbwysig i’n diddordebau strategol hirdymor – o ran yr economi ac amddiffyn.”