Mae modd bellach i gwmnïau a gafodd eu heffeithio gan gyfyngiadau coronafeirws wneud cais am gefnogaeth ariannol gan Gronfa Cadernid Economaidd diweddaraf Llywodraeth Cymru gwerth £180 miliwn.

Cafodd y cyllid ychwanegol, sy’n rhan o becyn gwerth £450 miliwn i gefnogi’r sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ei chyhoeddi fis Rhagfyr.

Mae’r £180m yn ychwanegol i becyn cymorth gwerth £270m i fusnesau sy’n talu ardrethi annomestig.

Mae’r swm y gall cwmni ei hawlio o’r gronfa gwerth £180m yn cael ei gyfrifo ar sail nifer y staff a throsiant.

Mae amcangyfrif felly y gallai busnes lletygarwch sydd â chwe aelod o staff llawn-amser fod yn gymwys i dderbyn cyfanswm o £12,000 i £14,000.

‘Pecyn cymorth mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig’

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i warchod ein busnesau yn ystod y cyfnod heriol iawn yma,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

“Mae ein pecyn cymorth yr un mwyaf hael yn y DU ac ers dechrau’r pandemig mae dros £1.6 biliwn o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau.

“Mae nifer o fusnesau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu dianghenraid eisoes wedi derbyn taliadau o £3,000 neu £5,000 yn y mis diwethaf a bydd y cyllid ychwanegol hwn yn hollol hanfodol i gefnogi busnesau cymwys drwy’r wythnosau anodd o’n blaenau.”

Mae disgwyl i’r gronfa gefnogi hyd at 8,000 o gwmnïau lletygarwch, twristiaeth a hamdden y mae’r cyfyngiadau yn cael effaith arnyn nhw ac o bosib 2,000 arall mewn cadwyni cyflenwi cysylltiedig.

Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif ei bod eisoes wedi gwarchod dros 125,000 o swyddi allai fod wedi eu colli fel arall.

Cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak grant ychwanegol o £227m yr wythnos ddiwethaf i gefnogi busnesau yng Nghymru drwy’r gwanwyn.

Fodd bynnag, daeth i’r amlwg yn ddiweddarach nad oedd yn arian ychwanegol wedi’r cyfan, ond yn rhan o’r £5.2bn sydd eisoes wedi’i roi i Lywodraeth Cymru i ddelio â’r pandemig.

Darllen mwy: