Mae cynlluniau’n cael eu hystyried i droi Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn amgueddfa dreftadaeth a pharc cyhoeddus.

Yn ôl adroddiadau, gallai’r ganolfan ddenu dros hanner miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

Byddai’r prosiect 20 mlynedd yn derbyn buddsoddiad o £50m, gan ddyblu maint y safle, adnewyddu’r castell a chreu canolfan addysg.

Mae’r cynlluniau bellach wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar ôl cael eu comisiynu gan Gyngor Sir Merthyr Tudful.

Bydd y ganolfan yn “dathlu hanes unigryw Merthyr Tudful, yn dathlu ac yn iacháu’r amgylchedd naturiol i ddarparu lleoliad hyfryd ar gyfer hamdden, addysg a datblygiad gwyddonol, a chreu hwb creadigrwydd a all gofleidio’r gymuned gyfan”.

Dywedodd Sefydliad Cyfartha, fod y datblygiad “sylweddol” yn gyfle i gyflawni 70 prosiect posib, gan gynnwys achub ffwrneisi 200 oed i’r gorllewin o afon Taf.

Mae cynlluniau eraill yn cynnwys “Llwybr Gwydr” trwy’r parc, datblygu adeiladau Fferm Pandy gyferbyn, a gardd lysiau cymunedol.

‘Byr iawn o adnoddau’

“Ar hyn o bryd, beth sydd gyda chi yn y Castell ydy amgueddfa leol, sy’n gwneud gwaith da, ond sy’n fyr iawn o adnoddau,” meddai Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Sefydliad Cyfarthfa.

“Be ’dan ni eisiau ei wneud ydy ei droi’n amgueddfa wirioneddol genedlaethol o safon ryngwladol ac fe fydd modd denu cymaint mwy o ymwelwyr.

“Ar y funud mae rhyw 60,000 o ymwelwyr y flwyddyn – mi ddylai fod modd i godi hynny i dros 300,000.

“Felly mae modd gweddnewid pwysigrwydd Castell Cyfarthfa, pwysigrwydd i’r diwydiant twristiaeth yn ogystal ag i’r gymuned leol.”