Fe fydd gofyn yn fuan fod gan deithwyr sy’n mynd i Seland Newydd dystiolaeth o brawf coronafeirws negyddol cyn teithio.

Mae’r wlad wedi llwyddo i ddileu’r feirws yn llwyr, ond yn poeni am y cynnydd eto mewn nifer o wledydd ar draws y byd.

Yn ôl y rheolau newydd, bydd yn rhaid bod teithwyr wedi cael prawf negyddol o fewn 72 awr cyn gadael.

Bydd yn dod i rym ar gyfer teithwyr o wledydd Prydain a’r Unol Daleithiau ddydd Gwener (Ionawr 15), ac ar gyfer bron bob gwlad arall yn fuan wedyn.

Ond bydd teithwyr o Awstralia a rhai o wledydd y Môr Tawel yn cael eu heithrio.

Hyd yn hyn, bu’n rhaid i bobol sy’n cyrraedd Seland Newydd fynd i gwarantîn am bythefnos.