Mae pennaeth Heddlu Llundain yn rhybuddio y bydd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu’n fwy llym yn erbyn y rhai sy’n torri cyfyngiadau’r coronafeirws.

Yn ôl y Fonesig Cressida Dick, mae disgwyl i heddluoedd symud “yn fwy cyflym” i orfodi’r cyfyngiadau wrth i bobol barhau i’w torri.

Mae’n dweud ei bod yn “hurt” nad yw rhai pobol yn ymwybodol o’r cyfyngiadau o hyd a’r angen i’w dilyn.

Daw ei sylwadau mewn erthygl yn y Times.

“Mae’n hurt gen i na allai rhywun fod yn ymwybodol o’n dyletswydd i wneud popeth allwn ni i atal ymlediad y feirws,” meddai.

“Rydym wedi bod yn glir bod y rheiny sy’n torri deddfwriaeth Covid-19 yn gynyddol fwy tebygol o wynebu dirwyon.”

Heddlu’n gwrthddweud

Er gwaethaf ei sylwadau, mae’r rhai sy’n gorfodi’r gyfraith wedi dweud wrth y Guardian na fydd yr heddlu’n gorfodi pobol i wisgo mygydau mewn archfarchnadoedd, er bod Llywodraeth Prydain yn ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Mae Morrisons yn dweud y bydd gofyn i gwsmeriaid sy’n gwrthod gwisgo mwgwd heb fod ganddyn nhw reswm dilys am beidio gwneud hynny yn cael gorchymyn i adael.

Dywed Sainsbury’s y bydd swyddogion diogelwch yn “herio” cwsmeriaid am beidio gwisgo mwgwd neu am fynd i mewn i’r archfarchnad mewn grwpiau sylweddol.

Daw’r rhybuddion gan yr archfarchnadoedd wrth i weinidogion Llywodraeth Prydain ystyried cyflwyno mesurau llymach yn Lloegr.

Gallai’r rhain gynnwys gwisgo mygydau yn yr awyr agored a gwahardd pobol rhag gwneud ymarfer corff â phobol o’r tu allan i’w haelwydydd.

Mae un cyn-weinidog Ceidwadol, Steve Brine, wedi galw ar raglen Newsnight y BBC am wahardd gwerthu prydau têcawê, nad ydyn nhw’n hanfodol, gan ddweud nad yw pethau o’r fath “yn ddoeth”.

Fe ddaw ar ôl i’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock rybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd “dan bwysau sylweddol iawn”.

Mae bron i 2.3m o bobol yng ngwledydd Prydain wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn coronafeirws, tra bod 388,677 hefyd wedi derbyn ail ddos.