Mae Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, wedi cyhoeddi y bydd angen i unrhyw un sy’n cyrraedd gwledydd Prydain o’r Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) ar ôl 4 o’r gloch fore heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 12) hunanynysu.
Bydd yn rhaid i deithwyr sy’n teithio i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon hunanynysu ar ôl cyrraedd, meddai gwefan y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu.
Roedd yr Alban eisoes wedi cyhoeddi cynllun tebyg yno.
Mae Michael Matheson, Ysgrifennydd Trafnidiaeth yr Alban, yn dweud mai gosod cwarantîn ar y rhai sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig yw “ein hamddiffynfa gyntaf wrth reoli’r risg o achosion a fewnforiwyd o gymunedau â risgiau uchel o drosglwyddo”.
Mae Dubai wedi dod dan y chwyddwydr yn ddiweddar ar ôl i nifer o athletwyr o wledydd Prydain brofi’n bositif am y feirws yn dilyn teithiau yno.
Bydd penderfyniad tîm pêl-droed Celtic i hedfan i Dubai ar gyfer gwersyll hyfforddi yn destun craffu pellach ar ôl i chwaraewr dienw brofi’n bositif am coronafeirws.
Cafodd y garfan a’r staff eu profi wrth gyrraedd yn ôl yn yr Alban ddydd Gwener (Ionawr 8).
Dywedodd Casey Stoney, rheolwr tîm merched Manchester United, wrth y BBC ei bod yn “ymddiheuro” am roi caniatâd i’w chwaraewyr deithio i Dubai dros gyfnod yr ŵyl.
Cafodd gêm Uwch Gynghrair Merched (WSL) ei thîm yn Everton ddydd Sul (Ionawr 10) ei gohirio oherwydd cyfuniad o achosion o’r coronafeirws ac anafiadau.
Dywedodd Stoney, yr oedd ei thîm yn dod o dan reolau Haen 3 ar y pryd, fod y daith o fewn canllawiau’r Llywodraeth.
Cafodd gemau timau eraill y WSL a oedd hefyd wedi ymweld â Dubai, gan gynnwys Manchester City ac Arsenal, eu canslo yn dilyn profion coronafeirws positif.