Bydd gwasanaeth dosbarthu bwyd Deliveroo ar gael i gwsmeriaid yn Llanelli eleni.

Fe ddaw ar ôl i’r cwmni gyhoeddi cynlluniau i ymestyn eu gwasanaethau i 100 o drefi a dinasoedd newydd eleni.

Mae’r galw am wasanaeth dosbarthu bwyd wedi cynyddu’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n cwmpasu sawl cyfnod clo coronafeirws, ar ôl i fwytai orfod cau eu drysau oherwydd y cyfyngiadau.

Y gobaith yw y bydd ymestyn y gwasanaeth i drefi a dinasoedd newydd yn sicrhau ei fod o fewn cyrraedd i bedair miliwn o gwsmeriaid newydd.

Ymhlith y llefydd eraill lle gallai’r gwasanaeth fod ar gael o’r newydd mae Yeovil yng Ngwlad yr Haf, Bangor yng Ngogledd Iwerddon, Dwyrain Kilbride yn yr Alban, King’s Lynn yn Norfolk, Scarborough yn Swydd Efrog ac Exmouth yn Nyfnaint.

Mae Deliveroo eisoes yn dosbarthu prydau parod mewn mwy na 200 o lefydd, a bydd y gwasanaethau hynny hefyd yn cael eu hymestyn.

Partneriaethau

Yn ystod 2020, fe wnaeth Deliveroo gynyddu eu partneriaethau â bwytai wrth i filoedd yn rhagor o fusnesau gofrestru gyda’r gwasanaeth.

Gall pobol archebu bwyd o’r cwmnïau hyn, ac mae Deliveroo yn dosbarthu’r prydau i ddrws y cwsmeriaid.

Mae gan y cwmni bartneriaethau erbyn hyn â sawl archfarchnad hefyd, gan gynnwys Aldi, Morrisons, Sainsbury’s a Waitrose.

Yn ôl Deliveroo, maen nhw’n gobeithio sicrhau y bydd modd i gwsmeriaid dderbyn eu bwyd o fewn hanner awr ar ôl cyflwyno’u harcheb.

Fe wnaeth y cwmni greu 25,000 o swyddi i ddosbarthwyr bwyd y llynedd, gan ddyblu eu gweithlu yng ngwledydd Prydain.