Mae cartref gofal yn Nghricieth yn dweud eu bod “wedi anobeithio’n llwyr” wrth ddisgwyl am frechlyn y coronafeirws.

Yn ôl Cartref Gofal Meddyg Care, wrth siarad â Radio Cymru, roedden nhw i fod i dderbyn y brechlyn yr wythnos ddiwethaf, ond maen nhw bellach yn poeni y bydd wythnosau’n mynd heibio cyn y byddan nhw’n cael y dos cyntaf.

Mae Lorna Jones, rheolwraig y cartref, yn dweud ei bod hi’n ymwybodol fod pobol dros 80 oed yn y gymuned yn derbyn y brechlyn cyn rhai o’u preswylwyr sydd mewn categori blaenoriaeth uwch.

“Mae lot ohonom ni heb weld ein teuluoedd a heb gymysgu i wneud yn siŵr fod y preswylwyr yn saff”, meddai wrth Radio Cymru.

“Rydan ni’n trio cadw pawb yn upbeat a thrio cadw pawb yn saff am 10 mis ac mae o wedi gweithio.”

Ac wrth iddyn nhw barhau i ddisgwyl, mae hi’n dweud ei bod hi’n poeni bod y cartref yn cael ei anghofio.

“Dyna sy’n poeni fi, dwi wedi clywed am gartrefi yng Nghaernarfon sydd wedi cael o,” meddai.

So mae o’n codi cwestiwn – pam ydan ni heb – be ’di’r gwahaniaeth?

“Rydan ni’n bwysig. Rydan ni jest mor bwysig â phawb arall.”

Pam?

Mae Kevin Edwards, rheolwr gyfarwyddwr Meddyg Care, eisiau gwybod pam nad yw preswylwyr wedi derbyn y brechlyn.

“Wrth gwrs dw i’n meddwl fod pawb angen eu brechu”, meddai wrth BBC Radio Cymru.

“Ond dw i ddim yn deall pam fod y bwrdd iechyd wedi symud oddi wrth y rhestr blaenoriaethu yma.

“Pam dyw ein preswylwyr heb eu cael nhw, pam?”

“Problemau logisteg”

Dywedodd Teresa Owen, cyfarwyddwr gweithredol iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fod “problemau logisteg” yn gyfrifol am yr oedi.

“Mae cyflenwad cychwynnol y brechlynnau i orllewin ardal y bwrdd iechyd wedi achosi rhai problemau o ran logisteg wrth i ni ddechrau ar y rhaglen hon, ond mae brechlynnau bellach wedi cael eu dyrannu i’r holl gartrefi nyrsio a phreswyl yn yr ardal”, meddai.

“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethom frechu bron i 10,000 o bobol yng ngogledd Cymru.

“Yr wythnos hon, bydd staff o feddygfeydd gofal cychwynnol yn mynd i’r cartrefi nyrsio a phreswyl lleol i roi’r brechlyn AstraZeneca i drigolion.

“Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y rhai sydd yn y grŵp agored i niwed hwn yn cael eu brechlyn cyn gynted â phosibl.”