Does dim digon o ymwybyddiaeth o ‘bwyntiau tipio’ newid hinsawdd, na chwaith o sut na pham ddylai unigolion gymryd camau gweithredu, yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru.
Daw hyn ar Ddiwrnod y Ddaear heddiw (dydd Llun, Ebrill 22).
Yn ôl arolwg gan PERITA yn 2022, dydy chwarter poblogaeth gwledydd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ddim yn gwybod beth allan nhw ei wneud i helpu i atal newid hinsawdd.
Roedd traean o bobol (32%) yn dweud nad ydyn nhw’n ymwybodol o’r camau sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn y Deyrnas Unedig.
Ond dywedodd 62% o bobol y bydden nhw’n hoffi gwybod mwy am newid hinsawdd.
Mae Bleddyn Lake, Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu Cyfeillion y Ddaear, yn teimlo bod angen addysg wirioneddol ar frys fel y cawson ni am Covid-19 ar ddechrau’r pandemig, a hynny er mwyn datrys y “datgysylltiad” rhwng y broblem a’r datrysiad ymysg y cyhoedd.
‘Lot o bobol dal ddim yn deall y cysylltiad’
Yn ei hanfod, mae Bleddyn Lake yn credu bod newid hinsawdd yn “beth eithaf syml” sy’n cael ei ddeall i raddau gan y cyhoedd.
Ond mae’r diffyg dealltwriaeth ynghylch pam ddylen ni gymryd camau gweithredu penodol yn peri pryder iddo.
“Yn ei hanfod, mae newid hinsawdd yn beth eithaf syml, a dw i’n meddwl bod pawb yn cael y syniad bod rhai nwyon yn cynhesu’r atmosffer, ac wedyn mae hynny yn ei dro yn achosi lot o broblemau,” meddai wrth golwg360.
“Rydan ni’n trafod hyn ers degawdau, ond ers hynny rydan ni wedi cael rhyw bedwar degawd o segurdod.
“Felly dw i’n meddwl fod lot o bobol dal ddim yn deall y cysylltiad rhwng be’ allan nhw ei wneud a sut gall hynny helpu.
“Does yna ddim digon o ganolbwyntio wedi bod ar y lefel yna o weithredu.
“Mae llawer o bobol eisiau i’r Llywodraeth weithredu ar bethau fel ynni a thrafnidiaeth – y pethau mawr sydd angen eu newid ar frys – ond does yna ddim gymaint o ganolbwyntio wedi bod ar be’ all pobol ei wneud a pham.
“Weithiau, rydan ni’n darllen erthyglau am be’ allwn ni ei wneud, ond beth sy’n aml ddim yn cael ei drafod ydy pam y dylen ni gymryd y camau yma.
“Mae pobol yn hoffi gwybod y rheswm pam.
“Mae yna achos, felly, i’r llywodraethau a’r cyfryngau wneud hynny’n gliriach i bobol, a’i rhoi ar draws mewn ffordd neis sydd ddim yn drysu pobol.”
Diffyg ymwybyddiaeth o’r ‘pwyntiau tipio’
Mae Bleddyn Lake hefyd yn teimlo nad ydy’r cyhoedd yn ddigon ymwybodol o ‘bwyntiau tipio’ yr hinsawdd.
Mewn gwyddoniaeth hinsawdd, trothwy tyngedfennol ydy pwynt tipio, sydd, o’i groesi, yn arwain at newidiadau mawr sy’n cyflymu ac nad oes modd eu gwrthdroi yn aml yn y system hinsawdd.
“Mae pwyntiau tipio weithiau’n cael eu trafod mewn rhaglenni David Attenborough ac ati, ac yn bendant mae gwyddonwyr yn gwybod llawer amdanyn nhw, ond dydy’r cyhoedd ddim yn gwybod digon am y pwyntiau tipio yma sy’n bodoli o amgylch y byd,” meddai.
“Mae hyn yn frawychus ac mae rhaid gweithredu, a gweithredu’n gyflym.
“Dydy o ddim yn rywbeth i’n plant ni ei wneud, mae o’n rywbeth i ni ei wneud drostyn nhw.”
Angen cymaint o sylw â Covid-19 yn ystod y cyfnod clo
Mae angen rhoi sylw gwirioneddol i addysgu pobol am newid hinsawdd – a hynny ar frys, yn ôl Bleddyn Lake.
“Ydych chi’n cofio yn ystod y pandemig pan oedd Boris Johnson ar y teledu bob nos, gyda’r gwyddonwyr wrth ei ochr yn egluro be’ oedd angen ei wneud a pham oedd angen ei wneud o?” meddai wedyn.
“Byswn i’n hoffi gweld yr un peth, ond am newid hinsawdd.
“Byddai gwleidyddion ar y teledu bob nos nes bod o i gyd yn cael ei ddatrys, neu nes bod pobol wedi diflasu gymaint ohono fo, [fel y] byddai pobol yn dweud wrth y gwleidyddion i’w sortio.
“Efallai fyddai pobol ddim yn gwrando ar Rishi [Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig] a Vaughan [Gething, Prif Weinidog Cymru] am hynny, ond y lefel yna o weithredu rydan ni ei angen nawr i drio cael y byrder ar draws i bobol.
“Mae yna ddatgysylltiad lle mae pobol yn meddwl, ‘Pam ddylwn i gymryd hyn o ddifri pan dydy o ddim yn cael ei atal mewn modd difrifol?”