Bydd aelodau seneddol ac Arglwyddi yn trafod Bil Rwanda heno, yn dilyn wythnosau o symud y ddeddfwriaeth yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau Dŷ.

Ar drothwy’r ddadl, mae Liz Saville Roberts yn mynnu bod y ddeddfwriaeth yn “anghyfreithlon ac yn anaddas at unrhyw bwrpas”.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi gwrthod gwelliannau’r Arglwyddi yn galw am barchu hawliau dynol a deddfwriaeth yn ymwneud â chaethwasiaeth fodern.

“Mae’r gwelliannau sy’n dal ar y gweill yn fwy elfennol eto – ond eto, mae’r Torïaid yn gwrthod cyfaddawdu ar y Bil creulon hwn,” meddai.

“Mae hyn yn adrodd cyfrolau.

“Mae Rishi Sunak yn siarad am ‘ataliad’ – ond mae dogfennau’r Swyddfa Gartref yn dangos ychydig iawn o dystiolaeth fod polisïau atal yn llwyddo, ac mae’r Cyngor Ffoaduriaid wedi canfod y bydd y cynllun, yn hytrach, yn arwain at fwy o beryglo o ecsbloetio.

“Dydy hi ddim yn rhy hwyr i atal y cynllun ffiaidd ac eithriadol o ddrud hwn.

“Mae Plaid Cymru’n galw ar y Llywodraeth Dorïaidd i roi’r gorau i danseilio hawliau dynol, a throi at bolisi lloches urddasol a thosturiol ar fyrder.”