Gallai uwch swyddog Cyngor Bwrdeistref Torfaen fod yn gyfrifol am Gyngor Blaenau Gwent hefyd, o dan gynlluniau newydd i rannu un Prif Weithredwr.

Cafodd Stephen Vickers ei benodi’n Brif Weithredwr Torfaen yn 2021, ac mae ei enw wedi’i gyflwyno i dderbyn swydd Prif Weithredwr ar y cyd, wrth i Damien McCann, Prif Weithredwr Blaenau Gwent, baratoi i ymddeol ym mis Mehefin.

Y Prif Weithredwr yw’r swyddog uchaf yn y Cyngor, ac fel pennaeth staff y Cyngor mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu cyflwyno a bod penderfyniadau’r arweinwyr gwleidyddol etholedig yn cael eu rhoi ar waith.

Mae Stephen Vickers yn ennill cyflog blynyddol o £132,023 ac mae Torfaen wedi talu eu swyddogion uchaf yn unol â chyfraddau sydd wedi’u cytuno’n genedlaethol, yn hytrach na defnyddio disgresiwn ar gyfer y swyddi uchaf.

Mae Blaenau Gwent hefyd yn dilyn cyfraddau sy’n cael eu cytuno’n genedlaethol, a’r cyflog uchaf ar gyfer y Prif Weithredwr yw £116,000 y flwyddyn.

Bydd yn rhaid i unrhyw benderfyniad i benodi Prif Weithredwr ar y cyd gael ei gymeradwyo gan y ddau Gyngor, ac mae Cyngor Bwrdeistref Torfaen wedi dweud y bydd penodiad Stephen Vickers “am gyfnod penodol yn y lle cyntaf” er mwyn edrych ar unrhyw arbedion posib a ffyrdd o gydweithio ar draws y cynghorau.

Eglurhad

Yn ôl Anthony Hunt, arweinydd Llafur Torfaen, y bwriad yw helpu i gynnal a chadw gwasanaethau wrth i gyllidebau grebachu, tra bod Stephen Thomas, arweinydd Llafur Blaenau Gwent, yn gwadu y byddai’r penodiad yn gam tuag at uno’r cynghorau.

“Mae hwn yn Brif Weithredwr llawn amser yn gweithio ar draws y ddau Gyngor,” meddai.

“Nid cam tuag at Brif Weithredwr rhan amser i’r ddau Gyngor nac uno’r cynghorau mo hwn.

“Byddai’r ddau Gyngor yn cadw sofraniaeth wleidyddol ac ariannol, gyda phob un hefyd yn cadw eu blaenoriaethau a’u cynlluniau, eu strwythurau llywodraethu a’u hannibyniaeth wleidyddol eu hunain.

“Fodd bynnag, rydym yn credu y gall y rôl hon ar y cyd gyflwyno gwir gyfleoedd i fwrw ymlaen â’r cynnydd a wnaed gan y ddau Gyngor dros y blynyddoedd diwethaf.”

‘Nifer o heriau tebyg’

“Mae Blaenau Gwent a Thorfaen yn gymdogion, ac mae ein cynghorau a’n cymunedau’n wynebu nifer o heriau tebyg,” meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Torfaen.

“Mae’r cyhoedd yn gyfarwydd iawn â’r heriau niferus sy’n wynebu’r ddau Gyngor, gan gynnwys pwysau ariannol arfaethedig ar y cyd o ryw £70m dros y pedair blynedd nesaf.

“Gallai hyn hefyd helpu i leddfu’r pryderon ariannol a gweithredol real iawn mae’r ddau Gyngor yn eu hwynebu.”

Mae disgwyl i’r cynllun sydd wedi’i drafod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gael ei ystyried gan y ddau Gyngor dros y misoedd i ddod.