Bydd Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, yn amlinellu ei flaenoriaethau heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 23), gan gynnwys y terfyn cyflymder 20m.y.a.

Dywed mai ei flaenoriaeth ar unwaith fydd gwrando ar y safbwyntiau amrywiol ar y polisi dadleuol, a chydweithio â chynghorau i dargedu’r newidiadau wrth weithredu’r terfyn.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y byddan nhw’n targedu ysgolion, ysbytai a meithrinfeydd, sef yr ardaloedd lle mae pobol ifanc a’r henoed yn wynebu’r perygl mwyaf.

Bydd Ken Skates yn amlinellu’r camau nesaf yn ei Ddatganiad Llafar heddiw.

Gwrthwynebiad

Wrth gael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru, dywedodd Vaughan Gething y byddai ei lywodraeth yn parhau’n ymroddedig i’r terfyn cyflymder.

Mae hyn er gwaetha’r gwrthwynebiad sydd wedi bod i’r polisi ers y dechrau’n deg, gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn pwyso am ei ddileu’n llwyr.

Ac fe wnaeth deiseb yn gwrthwynebu’r terfyn ddenu mwy na hanner miliwn o lofnodion – y nifer fwyaf yn hanes y Senedd.

Ond dywedodd Ken Skates yr wythnos hon eu bod nhw hefyd yn barod i addasu’r ffordd maen nhw’n edrych ar y polisi, ac mae’r sylwadau hynny wedi cael eu beirniadu gan rai fu’n ymgyrchu dros y terfyn cyflymder.

Yn rhan o’r polisi, mae gan awdurdodau lleol yr hawl i addasu’r polisi lle bo angen ond y man cychwyn diofyn yw 20m.y.a.