Mae arweinwyr ysgolion yn y Cymoedd wedi mynegi pryderon ynglŷn â chynlluniau fyddai’n golygu bod rhaid iddyn nhw gynnig mwy o ofal plant neu golli arian.

Yn sgil y cynigion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae undeb athrawon NAHT Cymru wedi ymyrryd.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys diwygio’r ddarpariaeth clybiau brecwast am ddim i gynnwys cynnig gofal plant.

Yn ôl yr undeb, does gan arweinwyr ysgolion mo’r cyllid na’r adnoddau i ychwanegu at eu llwyth gwaith.

Dan y cynlluniau, byddai’n rhaid i ysgolion newid eu darpariaeth yn y bore i gynnwys gofal plant £1 y sesiwn i gefnogi incwm ysgolion.

Mae’r Cyngor yn dadlau y byddai’r newid yn golygu eu bod nhw’n codi £500,000.

Fodd bynnag, mae arweinwyr ysgolion yn poeni am y lefelau ychwanegol o gyfrifoldeb y byddai’n ei roi ar ysgolion i ddarparu gwasanaethau tu hwnt i gyfrifoldebau addysg.

Gan fod undeb NAHT Cymru wedi mynegi pryderon, mae’r Cyngor wedi gohirio’r cynlluniau, a byddan nhw’n cynnal ymgynghoriadau pellach ag undebau.

‘Cwbl afresymol’

Dywed un pennaeth, sydd am aros yn ddienw, eu bod nhw’n hapus yn yr ysgol gyda darpariaeth bresennol y clwb brecwast oherwydd eu bod nhw eisiau cefnogi plant a’u teuluoedd.

“Ond mae disgwyl i ni reoli cynnig gofal plant ychwanegol yn gwbl afresymol,” meddai.

“Am yn rhy hir, mae cyfrifoldebau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar ysgolion i bigo’r darnau ar ôl i doriadau gael eu gwneud i wasanaethau eraill.

“Rydyn ni wedi gweld toriadau i’r gwasanaethau cymdeithasol, cefnogaeth iechyd meddwl i ddisgyblion, a help i fynd i’r afael â phlant yn methu’r ysgol – ond mae anghenion ein disgyblion yn fwy nag erioed.”

‘Arbenigwyr ar addysg’

Ychwanega Laura Doel, Ysgrifennydd Cyffredinol NAHT Cymru, fod angen cael cydbwysedd rhwng yr hyn sydd o fewn cyfrifoldebau arweinwyr ysgol a’r hyn sydd tu hwnt i’r cyfrifoldebau hynny.

“Mae penaethiaid yn arbenigwyr ar addysg a dysgu, a dydyn ni ddim yn meddwl y dylen nhw fod yn rhedeg gwasanaethau gofal plant,” meddai.

“Mae ein haelodau wedi dweud wrthym ni eu bod nhw’n teimlo’u bod nhw’n cael eu gorfodi i wneud hyn neu wynebu’r goblygiadau o gael llai o arian, sy’n annheg.”

‘Lleihau baich gwleidyddol’

Dywed Cyngor Rhondda Cynon Taf nad ydyn nhw’n derbyn y ddadl y byddai’n cynyddu llwyth gwaith athrawon.

“Yn dilyn cyfnod o ymgynghori â rhanddeiliaid, fe wnaeth y Cabinet benderfynu ym mis Ionawr 2024 i gyflwyno ffi ar gyfer y gofal plant sy’n digwydd cyn clybiau brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Cafodd y cynigion eu cymryd yn sgil y cyd-destun o heriau ariannol sy’n wynebu pob awdurdod lleol yng Nghymru, gydag ymrwymiad clir i gadw unrhyw incwm fyddai’n cael ei greu ar gyfer ei fuddsoddi’n ôl i gyllidebau ysgolion.

“Doedd y cynigion arfaethedig ddim yn cynnwys ffioedd i ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, a byddai clybiau brecwast am ddim dal i gael eu cynnal.”

Ychwanega bod disgwyl i’r cynnig gael ei weithredu mewn ysgolion dros y gwanwyn eleni, neu mor fuan wedyn â phosib, ond eu bod nhw wedi penderfynu gohirio’r cynlluniau yn sgil ymgynghoriad diweddar â rhanddeiliaid ac i ganiatáu trafodaeth bellach ag undebau ac ysgolion.

“Dydy’r Cyngor ddim yn cydnabod yr honiad y bydd y cynigion hyn yn cynyddu llwyth gwaith ysgolion o ystyried bod y gwasanaethau arlwyo, mewn partneriaeth ag ysgolion, wedi bod yn darparu gwasanaeth brecwast estynedig iawn yn ein holl ysgolion yn llwyddiannus ers dros ddeng mlynedd.

“Bydd yr holl geisiadau’n cael eu prosesu gan staff y Cyngor, er mwyn lleihau baich gweinyddol ar ysgolion.

“Rydyn ni dal wedi ymrwymo i ddod dros unrhyw rwystrau er mwyn gweithredu’r cynllun mewn partneriaeth gyda’n hysgolion.”