“Dwy genedl, un iaith” chwarddodd y dyn mewn llais dwfn gyda balchder amlwg wrth edrych i fyw fy llygaid ac ysgwyd fy llaw yn rymus fel hen gyfaill cyn troi yn ôl at ei gwrw. Roedd hwn yn amlwg yn ddywediad roedd e wedi’i ddefnyddio droeon o’r blaen, ond roedd y gwrthgyferbyniad â’r ffurf cyfarwydd “un genedl, dwy iaith” yn amlwg ac yn drawiadol iawn i fi, ac mae’n rywbeth sydd wedi aros gyda fi ers cwrdd â’r dyn am y tro cyntaf erioed ar nos Fercher braf fis Tachwedd y llynedd.

Ac yn fan cychwyn defnyddiol iawn ar gyfer yr erthygl hon!

Wedi cymryd llymaid arall o’i beint, aeth e a’i gyfaill i eistedd ar un o’r byrddau tu fa’s i’r bwyty gyda’u diodydd er mwyn cyfarch a diosg eu hetiau mawr, adnabyddus i bawb aeth hebio. Hetiau brethyn fflat oedd gan y ddau, ac roedden nhw wedi teithio o’u fferm yn y bryniau tu fa’s i’r dre i fwynhau noson o gymdeithasu.

Y gêm ar y teledu yn y bwyty ar y pryd oedd Manchester United yn erbyn Newcastle, ond os dyweda’ i wrthoch chi fod y bwyty ryw 7,000 o filltiroedd i ffwrdd o Fanceinion ac o Gymru fach, efallai bod yr esboniad y tu ôl i’r dywediad “Dwy genedl, un iaith” yn dechrau dod yn glir erbyn hyn?

“Archentwyr ydan ni, wrth gwrs,” ychwanegodd y dyn, wedi iddo ddychwelyd i’r bar i brynu peint arall. “Ond Archentwyr sy’n ymfalchïo yn ein cysylltiad â Chymru” – cyn i’r Gaucho fynd ’nôl i’w sedd tu fa’s.

Roeddwn i wedi cyrraedd y dref hon, Trevelin, ar ddydd Sul, Hydref 28 y llynedd, ar ôl teithio ar dair awyren ac un bws am gyfanswm o bron i 30 awr. Wedi diwrnod o gysgu ac wedyn dechrau cyfarwyddo â’r strydoedd o’m cwmpas, pwysais i ’nôl yn fy nghadair i fwynhau’r olygfa o gymdeithasu braf oedd yn digwydd y tu fa’s i Rincon Del Molino, y bwyty oedd wrth ymyl parc mawr crwn sy’n ganolbwynt i’r dref fach hon. O fewn yr ychydig oriau ers dihuno a chrwydro i ddechrau archwilio fy nghynefin newydd, roeddwn i wedi sylwi ar adar a phlanhigion anghyfarwydd, cŵn cyfeillgar yn crwydro’r strydoedd, a dreigiau ac enwau Cymraeg ym mhob man!

Ond nid taith mwynhau golygfeydd de America yn unig oedd hon; roedd gwaith i’w wneud hefyd. Ar ôl deffro i weld eira’n disgyn tu fa’s i’n cabanau ar fore cyntaf ein cydweithio â’r ysgol gynradd lleol, cerddon ni i Ysgol Y Cwm yn rhyfeddu ar y tywydd hollol annisgwyl; gyda staff a myfyrwyr Coleg Merthyr Tudful fel ei gilydd heb bacio am dywydd tebycach i ganol gaeaf Cymru.

Ar ôl cwrdd â’r athrawon a’r disgyblion, gan gyflwyno lamineiddiwr a dau becyn o bocedi plastig i’r brifathrawes, aethon ni ati i ddechrau gweithio gyda’r disgyblion ar ddysgu llinellau drama oedd wedi’i hysgrifennu gan arweinyddes y daith, Lynwen Harrington, mewn cydweithrediad â Thomas Door, athro o Aberpennar oedd ar secondiad yn yr ysgol. Braf iawn oedd gweld y myfyrwyr a’r plant yn cydweithio mor naturiol â’i gilydd wrth ddatblygu’r sgript a chreu a phaentio Mimosa mawr o gardfwrdd i’w ddefnyddio yn y ddrama, a chafodd pawb lawer o hwyl wrth berfformio’r ddrama i gynulleidfa o rieni’r plant.

O Drevelin, aethon ni i Esquel i ddysgu mwy am y Cymry cyntaf ddaeth i Batagonia, gyda chymorth a gwybodaeth y criw brwd a chroesawgar yng Nghanolfan Iaith Gymraeg Yr Andes, cyn dychwelyd i Drevelin am ddiwrnod cyn cychwyn ar y taith adref drwy dreulio noson yn Buenos Aires, wedyn yn ôl i Heathrow drwy Efrog Newydd, a cheisio ailgyfarwyddo â bywyd go iawn unwaith eto.

Beth bynnag fydd myfyrwyr Coleg Merthyr Tudful yn ei wneud yn y blynyddoedd i ddod, ac yn eu gyrfaoedd ar ôl gadael y coleg, bydd un profiad – un cyd-brofiad – gyda nhw am byth, a bydd y llecyn rhyfeddol yma o’r byd yn byw mewn lle arbennig iawn yn eu calonnau; lle ag aelwyd groesawgar, gyda thân yr iaith yn llosgi’n braf.

Mae llywodraethwyr Ysgol Y Cwm wedi dechrau ar y gwaith o godi ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf Patagonia, ar dir drws nesaf i’r ysgol gynradd. Mae goroesiad y Gymraeg ym Mhatagonia yn rhyfeddol – yn enwedig o gofio bod bywyd bob dydd yn digwydd mewn Sbaeneg yn unig, a bod y nesaf peth i ddim Saesneg yn unman. Wrth fyfyrio ar hyn ymhellach, mae’n amlwg taw absenoldeb y Saesneg sy’n allweddol i’r llwyddiant.

Wedi’r cyfan, “Dwy genedl, un iaith” ddywedodd y Gaucho, ac nid honni bod dwy iaith gyda ni’n gyffredin oedd e. Un iaith sy’n ein huno ni, ac yn ein huno ni’n gryf – er gwaetha’r pellter.

Ers imi ddychwelyd i Gymru, dw i wedi cychwyn codi arian i gefnogi’r achos anhygoel o godi’r ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yn yr Ariannin. Os hoffech chi gyfrannu, ewch i’r wefan.