Mae yna “lawer o broblemau” yn gysylltiedig â chynlluniau’r Gweinidog Addysg at haf 2021, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw “yn gyflym iawn”.
Dyna mae Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, wedi ei ddweud gerbron un o bwyllgorau’r Senedd.
Ar ddechrau’r wythnos mi gyhoeddodd Kirsty Williams y bydd marciau disgyblion yn cael eu dyfarnu ar sail ‘asesiadau dosbarth’ flwyddyn nesa’.
Ac yn siarad heddiw mae Philip Blaker wedi codi pryderon y gallai’r drefn newydd arwain at “anghysondebau” ledled y wlad.
“Rydym yn pryderu ynghylch y gallu i gyflawni’r cynigion yma,” meddai. “Mae angen meddwl am [atebion] mewn ffyrdd newydd, a rhaid gwneud hynny’n gyflym.
“Rydym yn pryderu yn bennaf am degwch a sicrhau bod yna gysondeb rhwng ysgolion,” meddai wedyn.
“Er mwyn gwneud hynny rhaid gwneud llawer o waith i ddarganfod sut yn union bydd hynny’n gweithio.
“Rydym yn pryderu mai athrawon, yn y pendraw, fydd yn rhoi’r radd. Mi all hynny ein gyrru tuag at anghysondebau. Ond, oes, mae yna lawer o faterion sydd yn rhaid mynd i’r afael â nhw.”
Er gwaetha’r pryderon dywedodd y Prif Weithredwr bod ei gorff yn “dal yn ymrwymedig i weithio â phawb i ddod at ddatrysiad”.