Mae Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, wedi mynnu bod rhaid i genhedlaeth basio cyn i ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban gael ei gynnal.

Cafodd ei bwyso ar y mater gan AS yr SNP Kenny MacAskill, oedd yn dweud bod rhai Ceidwadwyr blaenllaw yn derbyn bod ail refferendwm yn “anochel”.

Ond dywedodd Michael Gove fod chwe blynedd ar ôl y refferendwm diwethaf yn rhy fuan, o ystyried bod arweinwyr yr SNP wedi disgrifio pleidlais 2014 fel digwyddiad “unwaith mewn cenhedlaeth”.

Awgrymodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, Alister Jack, y gallai cenhedlaeth fod yn “25 neu 40 mlynedd”, er bod y polau piniwn wedi dangos bod yr Albanwyr yn cefnogi cynnal ail refferendwm os bydd yr SNP yn ennill mwyafrif yn Holyrood y flwyddyn nesaf.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Kenny MacAskill: “Mae hyd yn oed rhai Torïaid blaenllaw yn derbyn bod ail refferendwm yn anochel.

“Mae Albanwyr wedi dysgu, fel y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwybod o driciau 1979, pan gyfrwyd y meirw hyd yn oed.

“Onid yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn sylweddoli na fydd pobl yr Alban yn derbyn gemau gwleidyddol ar nifer na natur y cwestiwn sydd i’w ofyn?”

Atebodd Michael Gove: “Mae’n gwneud pwynt pwysig iawn.

“Mae’n gwbl hanfodol bod gennym hyder yn ein sefydliadau democrataidd a dyna pam mae’r Comisiwn Etholiadol a chyrff eraill yn chwarae rhan mor bwysig.

“Ond wrth gwrs mae hefyd yn bwysig fod gan bobol hyder yn yr addewidion a wneir gan wleidyddion.

“Ac yn 2014 roedd yn wir fod Nicola Sturgeon a chenedlaetholwyr blaenllaw eraill yr Alban wedi gwneud y pwynt bod y refferendwm hwnnw yn ddigwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth.

“Dim ond chwe blynedd yn ddiweddarach, nid wyf yn credu bod cenhedlaeth wedi mynd heibio.”