Pantycelyn – y cyfweliad llawn â Rhodri Llwyd Morgan
Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn trafod dyfodol y neuadd breswyl wythnos yma
Rhodri Llwyd Morgan Yr wythnos hon fe ddywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ei fod yn “derbyn bod siom” ymhlith y myfyrwyr ar hyn o bryd sydd yn ymgyrchu i achub Neuadd Pantycelyn.
Mewn cyfweliad â Golwg360 fe fynnodd fodd bynnag bod yn rhaid i’r neuadd breswyl gau oherwydd diffygion ar yr adeilad, gan ddweud y byddai’r brifysgol yn sicrhau bod llety penodedig ar gyfer y gymuned Gymraeg.
Ond mae’r myfyrwyr wedi ymateb yn chwyrn ers clywed am argymhelliad y penderfyniad, gyda bygythiad i barhau â’u protest dros y dyddiau a’r wythnosau diwethaf.
Fe allwch chi nawr wrando ar gyfweliad llawn gohebydd Golwg360 Iolo Cheung â Rhodri Llwyd Morgan, wrth iddo drafod dyfodol y neuadd breswyl.
Ymysg y pynciau sydd yn cael eu trafod mae diffygion y neuadd bresennol, amseru’r cyhoeddiad, diogelwch y myfyrwyr sydd yno ar hyn o bryd, trafodaethau ynglŷn â llety amgen, a’r ymgyrch sydd yn parhau.
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.