Llun o'r Mimosa o raglen yr wyl
Mae dathliadau sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia yn dechrau yn Lerpwl heno.
Mae hynny’n digwydd union 150 mlynedd ers i long y Mimosa hwylio o’r harbwr yno tua De America – ar 28 Mai, 1865.
Uchafbwynt yr ŵyl dros y Sul fydd dadorchuddio cofeb i’r digwyddiad ar lannau afon Mersi brynhawn fory.
Fe fydd cyngerdd mawr, darlithoedd, oedfa a chymanfa hefyd dros y Sul a derbyniad i westeion gan Arglwydd Faer y ddinas.
Y trefniadau
Mae Gŵyl y Mimosa yn cael ei threfnu gan Gymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi a nhw oedd wedi gwneud y cais am gael codi cofeb i’r fordaith, pan adawodd tua 170 o bobol i geisio creu ‘Cymru newydd’ ar ochr draw’r Iwerydd.
Fe fydd rhagor o ddathliadau yng Nghymru a Phatagonia ymhen deufis – adeg dathlu’r glanio yn yr Ariannin, lle mae tua 5,000 o bobol yn dal i allu siarad Cymraeg.
Yn ôl y gymdeithas sy’n trefnu’r prif ddathliadau, mae’n gyfle i nodi “pennod unigryw yn hanes Cymru ac Ariannin” ac yn “gyfle i gynnig golwg newydd ar ddyfodol y gymuned unigryw hon ac i gyfrannu at ei pharhad”.