Ysbyty Glan Clwyd
Doedd yr hyn a ddigwyddodd mewn ward iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd “ddim yn llai drwg” na’r problemau enwog yn Ysbyty Mid Staffs yn Lloegr.
Dyna farn aelod o fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru sy’n dweud bod rhaid i gyrff craffu hefyd edrych ar eu methiant i weld beth oedd yn digwydd yn Ward Tawel Fan ym Modelwyddan.
Roedd angen gwell trefn o rannu gwybodaeth rhwng cyrff o’r fath ac roedd rhaid i bob un ofyn “beth wnaethon ni o’i le”, meddai John Skipper wrth Radio Wales wrth ymateb i gyhoeddi adroddiad damniol ddoe.
Er nad oes neb am gael eu herlyn, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad mewnol i weld a oes angen disgyblu aelodau o staff.
Yr ymchwiliad
Ddoe roedd ymchwiliad wedi condemnio’r amgylchiadau yn y ward ar gyfer pobol oedrannus, gydag un teulu’n dweud bod yr amgylchiadau fel “sŵ”.
Heddiw, fe ddywedodd cadeirydd yr ymchwiliad, Donna Ockenden, fod yr ysbyty wedi methu â chynnig y lefelau mwya’ sylfaenol o ofal.
Roedd pobol oedrannus yn mynd i’r ward i gael eu hasesu, meddai, ond yn aml yn gorfod aros yno am fisoedd.
Bu perthnasau’n cwyno bod eu hanwyliaid yn cael eu cadw mewn amgylchiadau ffiaidd ond fod staff yn dweud eu bod yn rhy brysur i roi bath i’r cleifion.
Arolygiadau dirybudd
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, Jackie Allen, heddiw fod ganddyn nhw raglen ymweld ac arolygu dirybudd mewn lleoliadau gofal iechyd ar draws y rhanbarth.
Bu i’r sefydliad annibynnol wedi cwblhau dros 500 o arolygiadau yn 2014/15 ac yn cynllunio i gwblhau mwy yn 2015/16.
Mae prif swyddog Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru (CIC), Geoff Ryall-Harvey yn “croesawu ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i fynd i’r afael â methiannau difrifol”.
Ychwanegodd y byddai’r Cyngor Iechyd Cymuned “yn falch o glywed gan unrhyw un” sydd â phryderon am ansawdd y gofal a ddarperir gan y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru.