Gwaith dur Port Talbot
Fe fydd canlyniadau pleidlais i streicio ymhlith miloedd o weithwyr dur yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae pedwar undeb wedi bod yn ymgynghori gyda’u haelodau tros fwriad cwmni Tata i roi diwedd ar gynllun pensiwn Dur Prydain.

Mae degau o filoedd yn rhagor o gyn-weithwyr yn rhan o’r cynllun ac fe fydd canlyniadau tair o’r pleidleisiau – gan undebau’r GMB, Community ac UCATT – yn cael eu cyhoeddi y prynhawn yma.

Mae aelodau’r pedwerydd undeb, Unite, yn dal i  bleidleisio.

‘Y cwmni ar fai’

Yn ôl yr undebau, y cwmni rhyngwladol o India sydd ar fai am wthio’r diwydiant yn agos at eu streic fawr gynta’ ers mwy na 30 mlynedd.

Yn ôl swyddog Prydeinig y GMB, David Hulse, roedden nhw wedi bod yn trafod yn ddidwyll gyda’r cwmni ers mis Tachwedd y llynedd ond doedd y cwmni ddim yn gwrando.

“Mae’r penderfyniad yn ddiangen ac yn siomedig iawn,” meddai. “R’yn ni wedi trafod yn gadarnhaol i drio cyrraedd cytundeb.”

Mae’r undebau’n dweud eu bod wedi ceisio dod i gyfaddawd gan gydnabod bod diffygion yn y cynllun sydd â 143,000 o aelodau a chyfanswm o tua £14 biliwn.

‘Dim dewis’ meddai’r cwmni

Fe gyhoeddodd Tata ym mis Mawrth eu bod yn dod â’r cynllun i ben, gan ddweud bod y diffyg ynddo’n eu gorfodi i wneud hynny.

Fe fu cannoedd o bobol mewn cyfarfodydd ym Mhort Talbot lle mae tua hanner y 7,000 o weithwyr dur Tata yng Nghymru.

Fe fyddai’r drefn newydd yn golygu bod rhaid i weithwyr aros tan 65 oed, yn hytrach na 60, cyn gallu hawlio pensiwn.