Vicky Leech uwchben tref Thaba Tseka yn Lesotho
Vicky Leech sydd yn trafod ei phrofiad o fod yn Lesotho ar gynllun gwaith addysgol …
Mae wedi bod yn gyfnod prysur ers i mi gyrraedd Lesotho. Dwi wedi bod yn cyfarfod cydweithwyr, yn arsylwi gwersi, gwneud cynlluniau, dysgu mewn timau, dod i adnabod tref fach Thaba Tseka a delio gyda’r cyflenwad dŵr anwadal yn y tŷ fydd yn gartref i mi am y deuddydd nesaf.
Rydw i yn ucheldir Lesotho yn cymryd rhan mewn Cynllun Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol (ILO) gyda Choleg Addysg Lesotho (LCE).
Mae ILO yn rhaglen sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei chynnal gan Bridges and Links to Africa Consortium.
Mae’n gyfle gwych i bobl sy’n gweithio yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus yng Nghymru i weithio ar brosiectau datblygu un ai yn Uganda neu Lesotho am wyth wythnos. Mae’n gyfle gwych i herio eich hun yn bersonol ac ar lefel broffesiynol hefyd.
Gweithdy cyntaf
Rydw i ar leoliad yng nghampws Thaba Tseka Coleg Addysg Lesotho.
Dros y ddau fis nesaf mi fydda’ i yn gweithio gyda’r darlithwyr yn y coleg hyfforddi athrawon ar fethodolegau dysgu i gefnogi’r Cwricwlwm cyfannol a gyflwynwyd i’r ysgolion cynradd yma yn 2013, i gefnogi’r darlithwyr Mathemateg a gweithio gyda’r ysgol gynradd leol.
Athrawon yn trafod y dulliau dysgu gwahanol
Yn ddiweddar fe wnes i fy ngweithdy cyntaf gyda’r darlithwyr ac roedd yna lawer o chwerthin wrth i ni chwarae gemau yn edrych ar dechnegau dysgu gwahanol!
Rydw i wedi derbyn adborth da gan y darlithwyr ac mae nifer wedi dod ata’ i ers y gweithdy i ddweud pa weithgareddau newydd maen nhw am ddefnyddio yn y dosbarth. Edrychwch ar y canllawiau dinasyddiaeth fyd-eang i gael blas ar rai o’r gweithgareddau.
Rydw i wedi bod yn cadw blog ar wefan ILO ers i mi gyrraedd – cymerwch gip arno i glywed mwy o fy hanes.