Mae rhai o bleidiau Cymru’n ymgyrchu heddiw gan geisio perswadio etholwyr mai nhw yw’r blaid orau i gynrychioli’r wlad yn San Steffan.
Mae Prif Weinidog Cymru yn ymweld â Sir Benfro ac wedi addo cyflwyno 10 awr ychwanegol o ofal am ddim i blant tair a phedair oed i rieni sy’n gweithio os yw Llafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.
Mae Leanne Wood yn dadlau mai dim ond pleidlais dros Blaid Cymru wnaiff sicrhau cydraddoldeb ariannol i Gymru ac mae disgwyl i’r Farwnes Jenny Randerson o’r Democratiaid Rhyddfrydol ddweud mewn araith yng Nghaerdydd heno mae ei phlaid hi yw’r unig un all “angori” unrhyw Lywodraeth yn y tir canol.
Llafur
Dywedodd Carwyn Jones, wrth ymweld â chanolfan Dechrau’n Deg yn Sir Benfro, ei bod hi’n adeg anodd i nifer o deuluoedd yng Nghymru.
Tynnodd sylw hefyd at sut mae’r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain wedi torri darpariaeth gofal plant yn Lloegr tra bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r ddarpariaeth yn ystod tymor presennol y Cynulliad Cenedlaethol.
Ychwanegodd fod yr etholiad yn ddewis rhwng “Llywodraeth Lafur sy’n rhoi hwb i ddarpariaeth gofal plant a helpu rhieni i ddychwelyd i’r gwaith, neu Lywodraeth Dorïaidd gyda chynlluniau gwariant eithafol ac ymrwymiad i gwtogi cyllid addysg.”
Plaid Cymru
Yn dilyn cyhoeddi maniffestos y prif bleidiau, mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud mai dim ond pleidlais dros Blaid Cymru wnaiff sicrhau cydraddoldeb ariannol i Gymru.
Mae Leanne Wood wedi ailadrodd ymrwymiad Plaid Cymru i “ymladd” am gydraddoldeb cyllido i Gymru gyda’r Alban fyddai’n golygu £1.2 biliwn yn ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus.
Honnodd hefyd y byddai Llywodraeth Lafur fwyafrifol yn cau’r drws yn glep yn wyneb cyllid go iawn i ysgolion ac ysbytai Cymru.
Meddai: “Ond dim ond Plaid Cymru sydd yn galw am wrthdroi’r agenda doriadau a ddilynwyd gan y Torïaid ers yr etholiad diwethaf, ac am gydraddoldeb cyllido gyda’r Alban.”
Democratiaid Rhyddfrydol
Ac ym Mae Caerdydd heno, bydd y Farwnes Jenny Randerson yn dweud na fydd y naill na’r llall o’r ddwy hen blaid yn ennill mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol, a bydd yn ceisio perswadio pobl i bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn “angori” pa bynnag blaid fydd â mwyafrif mewn clymblaid.
Bydd hi’n dweud na fydd pleidlais i Blaid Cymru, y Blaid Werdd neu Respect yn golygu dim pan ddaw hi’n amser i ffurfio clymblaid neu bartneriaeth rhwng pleidiau oherwydd na fydd gan y pleidiau hynny ddigon o aelodau i newid pethau go iawn.