David Cameron
Mae David Cameron wedi addo 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i blant tair a phedair blwydd oed wrth iddo fynnu mai’r Torïaid yw’r blaid go iawn “i bobl sy’n gweithio”.
Wrth lansio maniffesto etholiadol y Ceidwadwyr, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’r ddarpariaeth bresennol o ofal plant yn cael ei ddyblu – gan arbed £5,000 y flwyddyn i rieni.
Dywedodd hefyd na fyddai unrhyw un sy’n ennill yr isafswm cyflog yn talu treth, gyda’r lwfans personol yn cael ei uwchraddio yn unol â’r cyflog sylfaenol yn y dyfodol.
“Wrth wraidd y maniffesto hwn mae cynnig syml,” meddai David Cameron yn y lansiad yn Swindon.
“Ni yw’r blaid ar gyfer y bobl sy’n gweithio, gan gynnig sicrwydd i chi ar bob cam o’ch bywyd.”
Dywedodd David Cameron y byddai llywodraeth Geidwadol yn defnyddio’r pum mlynedd nesaf i droi “y newyddion da yn yr economi yn fywyd da ar gyfer eich teulu”.
Dywedodd fod darparu gofal plant am ddim yn fesur allweddol i lawer o deuluoedd sy’n gweithio.
Dywedodd hefyd fod pasio deddfwriaeth i sicrhau nad oes neb ar yr isafswm cyflog yn gorfod talu treth incwm yn fersiwn modern o ddiwygiad blaenorol i helpu’r rhai ar gyflog isel.