Mae tair o longau rhyfel Rwsia yn cael eu “eu monitro” wrth iddyn nhw deithio yn y Sianel heddiw.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y llongau yn pasio trwy’r Sianel wrth ddychwelyd o Fôr y Canoldir.
Maen nhw’n cael eu monitro gan HMS Argyll ac mae disgwyl iddyn nhw adael yn ddiweddarach heddiw.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn nad ydyn nhw wedi gweld y llongau yn cymryd rhan mewn unrhyw ymarferion. Yn gynharach, roedd adroddiadau yn Rwsia wedi awgrymu eu bod nhw’n bwriadu cynnal ymarferion yn y Sianel.
Mae’n dilyn digwyddiadau tebyg yn y misoedd diwethaf ac yn dod ystod cyfnod o straen ar y berthynas rhwng Moscow a’r gymuned ryngwladol oherwydd yr argyfwng yn yr Wcráin.