Ysbyty Glan Clwyd
Mae cais am adolygiad barnwrol wedi cael ei gyflwyno tros benderfyniad i israddio’r adran famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan dros dro.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod wedi cael eu hysbysu o’r cais ddydd Gwener ddiwetha’.

Yn sgil hyn fe fydd cyfarfod o aelodau’r bwrdd oedd i’w gynnal ar ddydd Llun 20 Ebrill yn cael ei ohirio am fis, er mwyn ceisio cael cyngor cyfreithiol.

Nid yw’r bwrdd yn medru datgelu pwy sydd wedi galw am yr adolygiad ar hyn o bryd.

Gwrthwynebiad

Cafodd cynlluniau’r Bwrdd Iechyd i israddio’r uned famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd dros dro eu beirniadu’n hallt gan wleidyddion lleol ac arbenigwyr iechyd a hyd yn hyn, mae tua 15,000 o bobol wedi ymuno a thudalen Facebook yn galw am ail-ystyried  y penderfyniad.

O ganlyniad i broblemau staffio, cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd ym mis Chwefror y bydd mamau sy’n cael trafferthion wrth roi genedigaeth yn cael eu trosglwyddo i naill ai Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam.

Datganiad

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Roedd y Bwrdd wedi bwriadu cynnal cyfarfod arbennig ddydd Llun 20 Ebrill, i dderbyn papur gan y Grŵp Gweithredu, sydd wedi bod yn gweithio ar gynigion ar gyfer newidiadau dros dro i’r Gwasanaethau Obstetreg, Gynaecoleg, Newydd-anedig a Llawfeddygaeth y Fron cleifion mewnol.

“Fodd bynnag, yn hwyr ddydd Gwener (10 Ebrill), derbyniodd y Bwrdd Iechyd lythyr i hysbysu’r Bwrdd bydd adolygiad barnwrol yn cael ei geisio o ran y materion hyn.”

‘Pwysau’n cynyddu’

Dywedodd yr AC lleol Llyr Gruffydd sydd wedi bod yn ymgyrchu i gadw’r uned famolaeth:

“Mae’n amlwg fod pwysau’n cynyddu ar y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru. Dyna’r unig reswm pam fod y penderfyniad wedi ei ohirio am fis arall, sydd ar ôl yr etholiad. Dwi’n mawr obeithio y bydd y pwysau gan famau, meddygon, bydwragedd a nyrsys yn parhau ac y bydd y bwrdd a’r Llywodraeth yn ail-feddwl y penderfyniad gwirion yma.”