Prifysgol Aberystwyth
O fis Medi, fe fydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cwrs gradd israddedig newydd sydd wedi ei anelu at bobol sydd â diddordeb mewn defnyddio addysg fel ffordd o ddatblygu cymunedol a chymdeithasol.
Y radd BA mewn Addysg a Datblygiad Rhyngwladol yw’r ychwanegiad diweddaraf at bortffolio’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn Aberystwyth.
Mae’r cwrs yn cynnwys modiwlau mewn pynciau fel Pobol a Phartneriaethau, Addysg Fyd-eang a Datblygiad ac Arfer Rhyngwladol, ac wedi ei gynllunio i alluogi myfyrwyr i gyfrannu at gydlyniad cymdeithasol ac, yn y tymor hir, leihau tlodi.
Bydd gwersi ar sut i ystyried y ffactorau sy’n effeithio ar addysg a datblygiad – o faterion cymunedol i rôl yr unigolion a llywodraeth, ac effaith tlodi – a chyfle i dreulio 7 wythnos mewn sefydliad addysgol ym Mhrydain neu du hwnt.
Yn y pen draw, bydd y radd yn rhoi cyfle i bobol weithio mewn sefydliadau elusennol, sefydliadau anllywodraethol, a chyrff llunio polisïau addysgol, neu mewn sefyllfaoedd datblygiad cymdeithasol mwy ymarferol.
‘Cwrs arloesol’
“Mae hwn yn gynllun gradd cyffrous ac arloesol a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o rôl addysg o fewn cyd-destun datblygu rhyngwladol,” meddai Dr Stephen Atherton, Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yn yr Ysgol Addysg a Gydol Oes.
“Bydd hyn yn gosod myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar flaen y gad o ran datblygiadau allweddol i fynd i’r afael â thlodi, gwella cydraddoldeb, iechyd a lles, a mynediad i addysg ar raddfa fyd-eang.”