Fe ddaeth i’r amlwg fod y llofrudd James Ford ymhlith y rhai oedd wedi atal ymosodwr Llundain cyn i’r heddlu gyrraedd ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 29).

Roedd y criw, oedd i gyd yn gyn-droseddwyr, yn Llundain ar gyfer digwyddiad adfer troseddwyr.

Yn ôl adroddiadau, doedd Usman Khan, 28, ddim wedi dangos unrhyw arwydd ei fod e’n dal yn beryglus.

Cafodd ei garcharu yn 2012 am ei ran mewn cynllwyn i gynnal ymosodiadau brawychol, ac roedd e’n aelod o griw o frawychwyr oedd wedi bod yn cynllwynio yng Nghaerdydd.

Mae lle i gredu ei fod e wedi colli ei dymer yn yr adeilad ac wedi ceisio dringo grisiau cyn cael ei daflu allan o’r adeilad.

Cafodd ei daflu i’r llawr gan y criw cyn i’r heddlu ei saethu’n farw.

James Ford

Cafodd James Ford ei garcharu am lofruddio Amanda Champion, 21, yn 2004.

Roedd ganddi oed ymennydd merch 15 oed.

Mae lle i gredu ei fod e wedi ymosod arni ar hap yn Ashford yng Nghaint.

Cafodd ei ddal ar ôl ffonio’r Samariaid ddegau o weithiau yn cyfadde’r drosedd.