Mae Boris Johnson wedi cytuno i gael ei gyfweld gan Andrew Marr, ond mae’n dal i wrthod cyfweliad gydag Andrew Neil.
Mae lle i gredu bod y BBC wedi dweud wrth brif weinidog Prydain na fyddai’n cael wynebu cwestiynau gan Andrew Marr oni bai ei fod e hefyd yn cytuno i gael ei gyfweld gan Andrew Neil.
Yn ôl y BBC, mae sicrhau cyfweliad gyda’r prif weinidog “er lles y cyhoedd” yn sgil yr ymosodiad brawychol yn Llundain ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 29).
Ond mae penderfyniad y Gorfforaeth i gytuno i un cyfweliad cyn sicrhau’r llall yn cael ei feirniadu gan Lafur fel un “cywilyddus”.
Mae Wes Streeting, ymgeisydd Llafur, yn cyhuddo’r BBC o “ddawnsio i dôn” Boris Johnson.
Mae Jeremy Corbyn, Jo Swinson a Nicola Sturgeon i gyd wedi cael eu cyfweld yn unigol gan y BBC hyd yn hyn.