Gallai naw o ymddiriedolwyr Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig gael eu disodli yn sgil ffrae ymhlith yr aelodau, yn ôl rhaglen Post Cyntaf BBC Cymru.

Deallir fod o leiaf 5% o’r aelodaeth wedi arwyddo deiseb yn galw am gyfarfod cyffredinol i drafod nifer o gynigion.

Cafodd y gymdeithas ei ffurfio yn 1901, ac mae ganddi dros 5,000 o aelodau ledled y byd.

Hon yw’r gymdeithas fwyaf o’i bath ac mae eu swyddfa yn

Mae aelodau o’r gymdeithas wedi cyflwyno cynnigion i ddisodli’r naw o’r 14 ymddiriedolwr canlynol mewn cyfarfod yn Llanelwedd ar Medi 18: Miss D Chambers, Mr RJ Davies, Mr WG Davies, Mr JE Evans, Mr GDJ Jones, Mr GW Jones, Mr DD Morgan, Mr DO Roberts a Mr C Thomas.

Bydd aelodau naill ai yn gallu pleidleisio o blaid neu yn erbyn y cynigion, neu yn gallu rhoi pleidlais drwy ddirprwy yn y cyfarfod.

‘Angen cynrychiolaeth’

Yn ôl y BBC, does yna ddim rheswm yn cael ei gynnig dros geisio disodli’r ymddiriedolwyr.

Mae’r gymdeithas ei hun yn annog yr aelodau i wrthod y cynigion, ond dywedodd cyn-lywydd – Elizabeth French – sy’n cadw Cobiau Cymreig yn Chippenham, Wiltshire wrth y BBC bod angen “cynrychiolaeth decach” ar y cyngor, a bod gormod o “ymddiriedolwyr o’r un ardal”.

Dywedodd beirniaid eraill wrth y BBC nad oedd y cyngor yn gwrando ar farn yr aelodau, a bod yna ddiffyg profiad ymhlith yr ymddiriedolwyr.

Deallir hefyd bod yna ddadlau am achosion disgyblu o fewn y gymdeithas ac am y defnydd o brofion DNA ar gesig.

Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae rhai yn cyhuddo’r gymdeithas o ddiffyg tryloywder.

Dywedodd un o’r ymddiriedolwyr arall, yn ddienw wrth y BBC bod y cyfarfod ar Medi 18 yn teimlo fel “wynebu achos llys heb wybod beth yw’r cyhuddiadau yn eich erbyn”.

Dywedodd un bridiwr adnabyddus, Ifor Lloyd, sydd yn gyn-lywydd ac yn aelod oes o’r gymdeithas, wrth y BBC: “Yn lle rhoi eu hunain fyny i’r etholiad, maen nhw’n trio dod mewn drwy’r drws cefn. Pam nad yw’r bobl yma ddim yn rhoi rheswm pendant i’r aelodaeth?

“Os ydyn nhw yn disodli’r naw ar y 18fed, fydd yna ddim cyfle i’r 5,000 o aelodau i bleidleisio, ac mae hynny yn drist iawn,” meddai.

“Maen nhw’n dweud bod gormod o bobl o Sir Aberteifi ar y cyngor, ond maen nhw wedi cael eu hethol yn swyddogol.”

Y mis nesaf byd Meirion Davies, sydd hefyd yn enwog fel bridiwr merlod mynydd, yn cymryd yr awenau fel ysgrifennydd y gymdeithas.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig i’r datblygiadau diweddar.