Cyw pengwin pedwar mis oed yn Sea Life, Llundain, fydd y cyntaf yn hanes yr acwariwm iddyn nhw beidio â chyhoeddi ei ryw.

Ni fydd y cyw Gentoo, sydd eto i’w enwi, yn cael ei nodweddu fel gwryw nac fel benyw, ac mae’r ganolfan yn egluro fod cadw niwtraliaeth eu rhyw yn gyffredin ymysg pengwiniaid yn y gwyllt.

Magwyd y cyw pengwin newydd gan bâr o’r un rhyw, ar ôl i’r pengwiniaid Rocky a Marama gymryd wy nad oedd pengwin benywaidd yn y Wladfa yn gallu gofalu amdano.

Mae’r cyw Gentoo yn un o ddau i gael eu geni yn yr acwariwm eleni fel rhan o’i raglen gadwraeth.