Toeau tun rhychiog coch, waliau gwenithfaen llwyd, capeli Methodistaidd, siopau paste â baner ddu a gwyn San Peran, peiriannau mwyngloddio enfawr ar hyd y bryniau – gallai Real del Monte fod bron yn unrhyw dref lofaol yng Nghernyw. Dim ond palet lliw ei heglwysi Catholig a’i phensaernïaeth ddinesig o basteli pinc ac oren sy’n datgelu ei gwir leoliad, yn Nhalaith Hidalgo, Mecsico. Fe wnaeth cymuned Gernywaidd-Fecsicanaidd y dref ddathlu ei dau ganmlwyddiant eleni, felly pa well amser i mi archwilio tref enedigol fy hen nain, Graceta Skewes Davey?

Fe ddarganfuodd y conquistadores Sbaenaidd aur ac arian yn yr ardal yn y 1520au, a chafodd pobol frodorol (ac, yn nes ymlaen, gaethweision Affricanaidd) eu gorfodi i weithio yn y pyllau. Ar ôl degawdau o drafferth – gan gynnwys llifogydd aml, a’r streic gyntaf yn hanes Gogledd America yn 1766 – cafodd tua 350 o lowyr medrus Cernyw (y rhan fwyaf ohonyn nhw o Resrudh (Redruth), Kammbronn (Camborne) a’m plwyf genedigol, Lannwenep (Gwennap), eu gwahodd i gyflwyno technoleg mwyngloddio newydd yn 1824, er mwyn ail-lansio’r diwydiant arian. Fe wnaeth y genhedlaeth gyntaf o lowyr gario eu peiriannau mwyngloddio ar gefn asyn o Veracruz ar yr arfordir i’r dref ar uchder o 2700m uwchben lefel y môr – taith ofnadwy o beryglus (yn enwedig o ystyried ei fod yn dymor y dwymyn felen) nad oedd rhai wedi ei goroesi.

Gwneud cartref newydd

Serch hynny, wrth gyrraedd, fe wnaeth y gymuned Gernywaidd fwynhau ffordd gyfforddus o fyw yn gyffredinol, a phenderfynodd degau ohonyn nhw aros a phriodi pobol leol, a chwarae rôl weithgar yn eu mamwlad fabwysiedig. Dim ond un consesiwn i Blighty oedd ganddyn nhw: fe sefydlodd y gymuned y Panteón Inglés, lle cafodd y Cernywiaid (a Phrydeinwyr eraill) eu claddu, yn wynebu tuag at Brydain Fawr. Mae’r fynwent yn dal i wasanaethu cymuned Gernywaidd y dref (ymhlith eraill), dan ofal Señora Hernández Skewes – cyfnither bell i mi, efallai! – gyda chymorth UNESCO fel rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Mwyngloddio Cernyw a Gorllewin Dyfnaint.

Mae dadl ynghylch i ba radd roedd hunaniaeth ethnig neu ranbarthol y Cernywiaid yn un Geltaidd, yn lle (neu yn ychwanegol at) un Seisnig – cwestiwn sy’n anodd ei ateb heb orfodi fframweithiau cyfoes o genedlaetholdeb arno, o ystyried eu bod wedi dod o gymunedau Saesneg eu hiaith. Fodd bynnag, mae llawer o dystiolaeth o ysbrydolrwydd Celtaidd ar feddau yn y fynwent, mewn patrymau syncretig sy’n ymgorffori dyluniadau brodorol hefyd.

Cysuron cartref

Ar ben hynny, fe ddaeth y Cernywiaid â diwylliant byw unigryw, sy’n parhau i ddylanwadu ar draddodiadau lleol hyd heddiw. Gall pawb yn yr ardal ddweud wrthych fod y Cernywiaid wedi dod â’r pasty – neu, yn Sbaeneg, paste – sy’n cael ei addasu yn ôl y cynhwysion sydd ar gael yn lleol. Mae Museo del Paste yn dathlu treftadaeth y paste, a’i gysylltiad â glowyr o Gernyw; mae hyd yn oed yn cynnig y cyfle i wneud eich paste papa con carne (y fersiwn agosaf at y Cornish pasty traddodiadol, ond gyda chennin a llai o gig) eich hun. Hyd yn oed yng Nghernyw, dw i ddim yn ymwybodol o unrhyw le sy’n cynnig y math yma o brofiad i dwristiaid!

Pleser pur oedd gweld ein treftadaeth fwyd gyffredin yn cael ei dathlu a’i mwynhau gan ymwelwyr lleol (mae Real del Monte yn pueblo mágico, neu gyrchfan denu twristiaeth ddynodedig) – ac rwy’n hapus i anwybyddu’r ffaith fod rhai siopau pastes yn disgrifio’u cynnyrch fel pastes Inglés auténtico!

Nid pawb, fodd bynnag, sy’n gwybod fod y glowyr wedi dod â phêl-droed hefyd – cafodd gêm bêl-droed gyntaf Mecsico ei chynnal mewn sgwâr yn y dref, sydd bellach yn faes parcio, yn 1900. Hefyd, yn ôl tywyswyr Museo del Paste, fe ddaeth y Cernywiaid â gwelliannau mewn amodau gwaith, gan gynnwys hetiau caled, esgidiau uchel a lampau diogelwch ar gyfer gweithwyr brodorol.

O ganlyniad, ar y cyfan, doedd y Cernywiaid ddim yn wynebu drwgdeimlad gan bobol leol. Wrth gwrs, dw i ddim am wadu effaith coloneiddio ar gymunedau brodorol o gwbl, ac mae’n hollbwysig cydnabod braint y gymuned Gernywaidd-Fecsicanaidd. Wedi dweud hynny, rhyddhad oedd darganfod fod llawer o bobol yn cytuno nad y Cernywiaid oedd y bois drwg; a dylem ystyried y tlodi yng Nghernyw roedden nhw’n ffoi rhagddo ar y pryd, yn dilyn cwymp ein diwydiant tun a chopr.

Argraff ddofn

Fel siaradwr Cymraeg newydd sy’n dod o Gernyw yn wreiddiol, mae fy ymweliad â thref Fecsicanaidd lle mae cymuned o dras Geltaidd yn ffynnu mewn amgylchiadau anarferol (yn y byd Sbaeneg ei iaith hefyd, sydd mor debyg i’r Wladfa ym Mhatagonia!) wedi codi cwestiynau pwysig am yr hyn mae fy hunaniaeth Gernywaidd yn ei olygu i mi.

Yn bendant, mae byw a gweithio mewn amgylchfyd Cymraeg wedi fy helpu i deimlo’n fwy Celtaidd o ddydd i ddydd. Serch hynny, mae’r mewnwelediad hwn i le’r oedd rhan o’m teulu yn byw wedi fy helpu i ddeall sut mae ein diwylliant Celtaidd yn bodoli a goroesi yn y pethau bychain – y penderfyniadau bach ar estheteg ein tai a’n beddau, er enghraifft – yn ogystal â’r diwylliant gweladwy (a gwerthadwy), fel ein bwyd. Mae’r ffaith y gall y pethau bychain oroesi am 200 mlynedd yn rhoi gobaith i mi ar gyfer y dyfodol – gan gynnwys, meiddiaf ddweud, dyfodol ein hieithoedd.