Mae mwy a mwy ohonom yn teimlo’r rheidrwydd i ddianc rhag ein hunain. Mae sawl rheswm am hyn, wrth gwrs.
Trwy wledydd Prydain gwelwyd newid cymdeithasol a diwylliannol aruthrol yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf. Mae’r genhedlaeth ar ôl y rhyfel, sydd erbyn hyn yn eu saithdegau a’u hwythdegau, wedi gweld newid y tu hwnt i bob amgyffred mewn agweddau tuag at arian, preifatrwydd, rhywioldeb, a’r syniad o’r hyn sy’n ‘iawn’. ’Dan ni wedi gweld mwy o symud cymdeithasol a diwreiddio pobl ac unigolion nag ar unrhyw adeg yn hanes ein cenedl. Mae materion moesol a fu unwaith yn ddu a gwyn wedi mynd yn bethau llawer mwy cymhleth. Er ein bod yn dueddol o fod yn fwy cefnog, ac yn byw’n hirach, gyda mwy o amser hamdden nag mewn unrhyw genhedlaeth flaenorol, rydan ni hefyd yn delio â materion moesol, cymdeithasol a phersonol llawer mwy cymhleth.
I raddau, y problemau hyn sydd wrth wraidd dibyniaeth, ac maen nhw’n faterion y mae’r gymdeithas efallai’n gorfod eu hwynebu’n agored am y tro cyntaf. Os ydy pobl ddibynnol i lwyddo i gael adferiad, rhaid iddyn nhw allu ymddiried yn y bobl sy’n eu helpu. Y peth diwethaf maen nhw ei angen yw cael eu beirniadu, eu barnu a’u condemnio. Mae nifer ohonyn nhw wedi cael eu magu mewn cartrefi yn llawn lleisiau blin, beirniadol, a’r teimlad parhaus hwnnw o beidio cael eu derbyn sydd wedi atgyfnerthu eu dibyniaeth cyhyd.
Mae dynion a merched sy’n ei chael yn anodd derbyn eu rhywioldeb eu hunain neu sydd wedi dod allan fel pobl hoyw neu lesbiaid ac yna cael eu beirniadu a’u collfarnu, yn aml yn ymgolli mewn alcohol a chyffuriau neu ymddygiadau hunan-niweidiol. Y gamp i gymdeithas ydy derbyn yr unigolyn fel y mae, hyd yn oed os bydd yn ei chael hi’n anodd ei dderbyn ei hunan.
Oedolion clwyfedig
Mae plant yn aml yn cael eu niweidio mewn sefyllfaoedd syml bob-dydd ac yn datblygu i fod yn oedolion clwyfedig. Gall rhiant blin, beirniadol neu ymosodol, adael plentyn gyda hunan-ddelwedd hynod o isel. Hefyd, gall rhiant pryderus, llawn euogrwydd, annibynadwy, sy’n aml yn torri lawr, achosi i’r plant fod yn ofnus a phryderus, wastad yn ofni’r gwaethaf. O ganlyniad i ddiffyg sylfaen ddiogel, sefydlog, mae’r plentyn yn tyfu gyda theimlad o fod yn anghyflawn – teimlo rhyw wacter mewnol. Ac yna, fel oedolyn, mae’n treulio llawer o’i fywyd yn ceisio datrys y ‘diffyg’ hwn ac yn chwilio am atebion ‘hawdd’, yn aml mewn perthynas gyd-ddibynnol neu ymosodol, a hefyd trwy droi at sylweddau neu ymddygiadau niweidiol.
Gall hyn oll ddeillio hefyd o fathau eraill o gam-drin – esgeulustod (o ran angen sylfaenol plentyn am ddiogelwch, bwyd, glanweithdra neu hyd yn oed gartref sefydlog) neu gam-drin corfforol neu rywiol.
Fel cwnselydd, dwi’n cymryd agwedd ‘pob dibyniaeth/ymddygiad’ tuag at adferiad ac, o ganlyniad, mae’r ystod o gyffuriau ac ymddygiadau rydw i’n eu gweld, yn parhau i gynyddu. Mae cyffuriau newydd fel Mephedrone (Miaow Miaow), ymddygiadau heb reolaeth fel gwylio porn ar y rhyngrwyd yn obsesiynol, a gamblo ar-lein, yn ein hatgoffa’n ddyddiol o’r ffaith bod cymdeithas a’i phroblemau yn newid yn gyson.
Tra bod cyffuriau, dibyniaethau a thechnoleg yn gallu newid, mae’n werth cofio bod y natur ddynol yn aros yr un peth – mae angen pobl am gariad, cwmni, cael eu derbyn, cyfeillgarwch, pwrpas ac ystyr i fywyd, yn ffenomen fyd-eang. Mae hwn wastad yn ddechreubwynt da wrth ystyried sut i fynd ati i helpu rhywun.
Pwys ar y pethau materol
Ni ellir gwadu, sut bynnag, bod cymdeithas heddiw yn rhoi pwys mawr ar bethau materol. Ystyrir bod cronni cyfoeth yn beth naturiol, cyfiawn a hyd yn oed rhinweddol. Ar yr un pryd, bu dirywiad yn nylanwad crefydd a’r lle a roddir i werthoedd ysbrydol. Pan fo diffyg cydbwysedd rhwng y ddwy set yma o werthoedd, gall sefyllfa beryglus ddatblygu.
Gall awchu am gyfoeth materol fynd yn obsesiwn; gall arwain at drachwant ac ymddygiad hunanol a all, yn ei dro, arwain at sefyllfa lle mae’r unigolyn yn cael ei ynysu a’i wrthod gan gyfoedion. Hefyd, o fethu â chyrraedd y nod materol a osododd person iddo’i hun, fe all fynd yn ddigalon a dioddef iselder ysbryd. Mae’r rhain i gyd yn sefyllfaoedd sy’n benthyg eu hunain i yfed alcohol a chymryd cyffuriau.
Hyd yn oed pan fydd person yn llwyddo i gyrraedd ei nod heb gael ei ddal yn y maglau uchod, mae’n dal i orfod wynebu’r cwestiwn, “Beth yw’r pwynt?”. Heb werthoedd ‘uwch’, gwerthoedd y byddai rhai’n eu galw’n werthoedd ysbrydol, mae perygl i fywyd, hyd yn oed gyda’r cyfoeth materol, fod yn wag a dibwrpas. Dyma sefyllfa unwaith eto lle mae troi at gymryd alcohol a chyffuriau yn demtasiwn gref.
Y datrysiad?
Darganfod y gwir hunan – dyna yn y bôn ydy nod pob un ohonom ar daith bywyd. Darganfod pwy ydan ni go iawn. O ganfod yr ateb cawn yr allwedd i fwynhau bywyd yn ei holl gyflawnder; yr hyn rydym wedi bod yn ei ddeisyfu a chwilio amdano – yn aml yn y llefydd anghywir – drwy’n hoes.
Mae Wynford Ellis Owen yn actor ac yn Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol.
Gellir darllen colofn Gair o Gyngor Wynford Ellis Owen yn Golwg yma