Gallai argymhellion ar gyfer codiad cyflog o 6% annog mwy o bobol ifanc i ddod yn gynghorwyr, clywodd Cyngor Wrecsam heddiw (dydd Iau, Tachwedd 16).

Bob blwyddyn mae’r cyngor yn derbyn adroddiad drafft gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) ac eleni mae’r IRPW yn cynnig cynnydd yn y lwfans sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig (6.06%).

Byddai hyn yn golygu cynnydd o fwy na £1,000 y flwyddyn o £17,600 i £18,666 mewn cyflog sylfaenol.

Gallai cyflog rôl arweinydd y cyngor godi o £59,400 i £62,988, tra byddai cyflog dirprwy arweinydd yn codi o £41,580 i £44,099.

Gallai cyflogau blynyddol aelodau’r bwrdd gweithredol godi o £35,640 i £37,799.

Byddai arweinydd yr wrthblaid fwyaf yn gweld eu cyflog yn codi o £26,400 i £27,999 tra byddai cadeiryddion pwyllgorau yn gweld eu cyflogau’n codi i’r un ffigwr.

Byddai cyflog Maer Wrecsam hefyd yn cynyddu o £26,400 i £27,999, ynghyd â chynnydd yng nghyflog y dirprwy faer o £21,340 i £22,406.

“Straen economaidd”

Mewn adroddiad i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd heddiw, bu cynghorwyr yn ystyried y sefyllfa o ran cyllid y sector cyhoeddus a’r effaith ar gyllidebau gan gydnabod y “straen economaidd a chyllidol uwch” ar brif gynghorau. Ystyriwyd enillion cyfartalog etholwyr hefyd.

Ei nod yw cynnal “pecyn teg a rhesymol” i gefnogi aelodau etholedig ac “na ddylai fod yn rhwystr i gyfranogiad”.

Darparwyd holiadur hefyd ac mae gan gynghorwyr tan Ragfyr 8 i’w gwblhau.

‘Cymhelliant i bobl iau’

Cytunodd y Cynghorydd Trevor Bates o Ddyffryn Ceiriog â’r argymhellion gafodd eu cyflwyno, a dywedodd fod angen “tâl digonol a rhyw fath o gymhelliant i bobl iau” i ddod yn gynghorydd, sydd angen cynrychiolaeth o “drawstoriad” o’r gymuned.

Cytunodd y Cynghorydd Claire Lovett o New Broughton, gan ddweud bod angen “cyflog byw a theg”, ond pwysleisiodd ei bod yn ymwybodol o’r argyfwng costau byw i etholwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Malcolm King o Wynnstay os nad yw cynghorwyr am gymryd y codiad cyflog, gallan nhw ei roi i elusen.

Ychwanegodd: “Dw i’n meddwl bod yr hyn y maen nhw’n ei wneud yn hanfodol i gynnal rhan o’n democratiaeth.”