Gallai Casnewydd fod yn un o’r ardaloedd diweddaraf yng Nghymru i godi premiwm y dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor.

Yn dilyn galw ‘enfawr’ am dai yn y ddinas, dywedodd arweinydd y cyngor Jane Mudd y byddai codi’r dreth gyngor yn “gymhelliant” i berchnogion tai gwag, ac y gallai olygu bod bron i 1,000 o gartrefi yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Mae’r galw am lety dros dro wedi codi 114% ers y pandemig, ac ar hyn o bryd mae 9,000 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol, yn ôl adroddiad y cyngor.

Cannoedd o eiddo gwag

Mae hefyd 2,565 o eiddo preswyl gwag yng Nghasnewydd, ac mae 830 ohonyn nhw yn cael eu hystyried fel cartrefi gwag hirdymor (eiddo sy’n wag a heb ddodrefn am 12 mis neu fwy).

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd wrth y cabinet nad yw’n iawn fod cannoedd o eiddo yn wag yng Nghasnewydd pan “mae cymaint o alw” am dai.

Bydd trigolion y ddinas nawr yn cael dweud eu dweud ar y cynnig i godi biliau treth gyngor perchnogion tai gwag hirdymor.

Mae cartrefi gwag yng Nghasnewydd wedi’u heithrio o’r dreth gyngor am hyd at 12 mis ar hyn o bryd, ond o dan gynllun newydd y cyngor, gallai perchnogion orfod talu pedair gwaith cyfradd safonol y dreth gyngor ar ôl y cyfnod hwnnw.

‘Dyletswydd’

Yn ystod cyfarfod cabinet yr wythnos hon, dywedodd y Cynghorydd Mudd a’i chydweithwyr eu bod yn disgwyl i’r polisi fod yn boblogaidd, oherwydd y byddai’n mynd i’r afael â digartrefedd ac yn sicrhau bod mwy o dai ar gael i deuluoedd mewn angen.

Nid yw cysgu ar y stryd yn “ddewis ffordd o fyw”, meddai’r aelod cabinet dros dai James Clarke, mewn beirniadaeth o sylwadau diweddar gan y cyn-ysgrifennydd cartref Suella Braverman.

Roedd ef a Debbie Harvey, yr aelod cabinet dros y gymuned, o blaid cynllun y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Harvey y byddai’r cynnig yn golygu bod yn rhaid i berchnogion tai gwag hirdymor “dalu premiwm” i barhau i ddal eu gafael arnyn nhw.

Dywedodd Jason Hughes, yr aelod cabinet dros wasanaethau cymdeithasol, fod gan berchnogion o’r fath “ddyletswydd ddinesig” i gyfrannu at dai, a bod “llawer i’w hennill” o gynnig y cyngor.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus y gaeaf hwn, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn pleidleisio ar y polisi yn y flwyddyn newydd.