Mae Aelod Seneddol Ynys Môn Virginia Crosbie yn destun ymchwiliad gan Bwyllgor Safonau’r Senedd.

Mae Comisiynydd Safonau Tŷ’r Cyffredin, Daniel Greenberg, wedi cyhoeddi ei fod yn ymchwilio i ymddygiad Virginia Crosbie wedi iddi fynd i ddigwyddiad yn ystod cyfnod cyfyngiadau Covid-19.

Mae hefyd yn ymchwilio i’r Fonesig Eleanor Laing. Mae’n debyg bod hyn yn ymwneud a honiadau eu bod wedi cynnal digwyddiad i ddathlu eu pen-blwydd ar y cyd ar 8 Rhagfyr 2020.

Cyhoeddodd y Comisiynydd ddydd Iau (Tachwedd 16) ei fod yn ymchwilio i Virginia Crosbie a’i bod dan amheuaeth o fod wedi ymddwyn mewn modd a wnaeth achosi “niwed sylweddol i enw da” Tŷ’r Cyffredin.

Mae Virgina Crosbie eisoes wedi ymddiheuro am fynd i’r digwyddiad ond dywedodd nad oedd hi wedi anfon y gwahoddiadau ac nad oedd wedi yfed yn ystod y digwyddiad.