Yr angen i flaenoriaethu anghenion cymunedau lleol oedd y neges amlwg yng nghynhadledd Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith ddoe (dydd Iau, 16 Tachwedd).
Bu’r mudiad yn trafod y posibiliadau er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru. Y neges oedd bod angen datrysiad i’r argyfwng tai er mwyn sicrhau cymunedau tecach.
Yn ôl Walis George o Gymdeithas yr Iaith, mae rhai cymunedau gwledig wedi colli hyder mewn datblygiadau tai gan nad ydy’r datblygiadau’n addas ar eu cyfer nhw.
Dywedodd bod yn rhaid trawsnewid yr holl farchnad dai er mwyn lleddfu’r pwysau ar gymunedau.
“Beth rydyn ni’n weld ydi bod cymunedau Cymraeg gwledig, llawer iawn ohonyn nhw, wedi colli hyder yn y broses cynllunio, dydyn nhw ddim yn credu bod y datblygiadau sydd o dan sylw yn ddatblygiadau sy’n cyfarch eu hanghenion lleol nhw,” meddai wrth golwg360.
“Felly yn y cyd-destun yna dw i’n meddwl bod arfogi, grymuso cymunedau i fod â rhan ganolog – nid yn unig yn y broses o adnabod eu hanghenion lleol ond o osod y blaenoriaethau – ac adnabod y cyfleoedd priodol i ymateb.”
Cymunedau angen chwarae ‘rhan ganolog’
Cafodd yr angen i gymunedau chwarae rôl ganolog mewn cynlluniau tai ei adleisio gan Mabon ap Gwynfor.
Dywedodd bod angen i dai fod yn rhan o’r gymuned gan bwysleisio bod hynny’n “rhan ganolog o’r cysyniad o dai digonol.”
Mae hefyd yn credu y byddai’r hawl i dai digonol yn helpu mynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru.
“Y gwir ydi, os basen ni’n cael deddf mewn lle am yr angen am dai digonol buasai hynny i gyd yn disgyn i mewn i le,” meddai.
Dywedodd bod angen i Gymru fod yn gweithio oddi fewn fframwaith tai digonol y Cenhedloedd Unedig.
Ei obaith yw bydd gweithredu erbyn diwedd tymor y Senedd hon.
“Os oedd yn argyfwng ddwy flynedd yn ôl, mae’n gatastroffi erbyn hyn,” meddai.
Siom yn y papur gwyrdd
Atgyfnerthwyd hyn gan John Griffiths, Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd.
Fe yw Cadeirydd Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol y Senedd a dywedodd bod y pwyllgor o blaid cefnogi bil am dai digonol.
Yn yr un modd, dywedodd Alicja Zalesinska o Tai Pawb bod y grŵp yn “siomedig iawn gyda chynnwys y papur gwyrdd,” meddai.
“Nid yw’r hawl i dai yn cael ei ystyried yn y papur hwnnw fel hawl mewn gwirionedd.
“Mae’n cael ei awgrymu ei fod yn geirios ar ben y gacen a dweud y gwir.”
Y gobaith yw bydd y papur gwyn yn ystyried cynigion Cymdeithas yr Iaith pan gaiff ei ryddhau.