Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn chwilio am fwy o aelodau sy’n siaradwyr Cymraeg.

Eleni, mae’r sefydliad wedi bod yn dathlu’i ben-blwydd yn 40 oed, a chafodd y Cyfarwyddwr Gweithredol cyntaf sy’n siarad Cymraeg ei benodi’n ystod y flwyddyn hefyd.

Dywed Owain Gwilym eu bod nhw’n “awyddus iawn” i weithio gyda chymaint o artistiaid ag anableddau neu sy’n fyddar Cymraeg a bo phosib.

Bwriad Celfyddydau Anabledd Cymru yw cael Cymru greadigol a chyfartal lle mae pobol ag anableddau yn ganolog i’r celfyddydau.

Caiff y sefydliad ei arwain gan bobol ag anableddau, gan ganolbwyntio ar brofiadau bywyd pobol ag anableddau a phobol fyddar.

“Eleni rydym wedi datblygu ein gweithgareddau Gymraeg ac yn edrych ymlaen at ddarparu mwy o gyfleodd uniaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn nesaf,” meddai Owain Gwilym.

‘Croesawu mwy o artistiaid Cymraeg’

Cafodd Rheolwr Cyfathrebu sy’n medru’r Gymraeg ei phenodi’n ddiweddar hefyd.

“Mae’n bwysig i gael y cyfle i fynegi eich gwaith a phrofiadau trwy’r iaith rydych chi mwyaf cyfforddus gyda, felly rydyn ni’n awyddus i groesawu mwy o aelodau Cymraeg eu hiaith ac i gefnogi ein haelodau trwy greu mwy o gyfleoedd Gymraeg,” meddai Cerys Knighton, sy’n artist.

Ychwanega Alan Llwyd, Prif Weithredwr AM sydd hefyd yn un o ymddiriedolwyr Celfyddydau Anabledd Cymru, fod y gwaith maen nhw’n ei wneud yn “gwbl hanfodol”.

“Rydym yn angerddol am ymestyn ein gwasanaeth fel bod gymaint o artistiaid anabl a Byddar â phosib yn gallu mynegi a chreu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.”