Mae cynllun wedi ei lansio i geisio ysbrydoli mwy o fenywod ifanc i ddilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth.
Bwriad y prosiect LeadHerShip, sy’n cael ei redeg gan yr elusen cydraddoldeb Chwarae Teg, yw rhoi blas ar waith y Senedd i fenywod o bob cefndir neu gymuned rhwng 16 a 22 oed.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i ddysgu am weithredoedd y Senedd, cysgodi eu haelodau, mynychu sesiynau Cwestiynau’r Prif Weinidog a chymryd rhan mewn ffug-ddadl.
Cynulliad Cymru, fel yr oedd hi’n arfer cael ei hadnabod, oedd y sefydliad cyntaf o’i fath yn y byd i weld cydbwysedd rhwng dynion a menywod, pan gafodd 30 o fenywod a 30 o ddynion eu hethol yn 2003.
Ers hynny, mae niferoedd wedi gostwng ychydig, gyda 43% o’r rheiny a gafodd eu hethol i Fae Caerdydd yn 2021 yn fenywod.
Mae un o’r menywod hynny, Sarah Murphy, wedi ymuno â Chwarae Teg fel noddwr ar gyfer y digwyddiad.
‘Hanfodol bod lleisiau menywod yn cael eu clywed’
Mae LeadHerShip yn pwysleisio bod y cynllun yn agored i unrhyw fenyw ifanc o leiafrif ethnig, sy’n ystyried eu hunain yn anabl, sy’n ystyried eu hunain yn LGBT+, neu’n sy’n perthyn i unrhyw grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus.
Bydd rhaid i fenywod ysgrifennu’n fyr am yr hyn y byddai’r cyfle’n ei olygu iddyn nhw, yn ogystal â pham eu bod nhw’n credu y dylid dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched o flwyddyn i flwyddyn.
“Mae wedi bod yn hynod lwyddiannus ac wedi cael derbyniad da gan y menywod ifanc a’r ASau fel ei gilydd,” meddai Tomos Evans, Partner Polisi a Materion Cyhoeddus elusen Chwarae Teg.
“Mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Er bod 43% o Aelodau’r Senedd yn fenywod, mae’r ffigur hwn yn amrywio ac yn anghyson ar draws y pleidiau gwleidyddol.
“Mae tangynrychiolaeth glir o fenywod o gefndiroedd amrywiol yn sefydliadau gwleidyddol Cymru hefyd.
“Mae’r penderfyniadau a wneir gan Aelodau’r Senedd yn effeithio ar bob rhan o’n bywydau, ac mae’n hanfodol bod lleisiau menywod yn cael eu clywed yn y dadleuon hyn fel bod y penderfyniadau sy’n effeithio ar bawb yn cael eu gwneud yn deg.
“Rydym am feithrin dealltwriaeth ac ymgysylltiad menywod ifanc a chynyddu eu hyder i godi llais a chael eu clywed.”
‘Grymuso menywod’
“Rwy’n falch iawn o noddi LeadHerShip Senedd eleni gan ei bod mor bwysig ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol a grymuso menywod i chwilio am rolau arwain,” meddai Sarah Murphy, yr Aelod o’r Senedd dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr.
“Mae cael gwleidyddion o ystod o gefndiroedd amrywiol yn gwella’r broses o wneud penderfyniadau ac yn helpu i sicrhau bod ein sefydliadau’n gallu gwasanaethu pawb yng Nghymru yn y ffordd orau.
“Rwy’n gobeithio y bydd LeadHerShip Senedd yn annog y menywod ifanc hyn i ymgymryd â rolau gwleidyddol a gweld eu hunain fel gwneuthurwyr newid ac arweinwyr y dyfodol.”
Merched ar gynghorau sir
Mae nifer y menywod sy’n gynghorwyr yn is na’r nifer sy’n Aelodau o’r Senedd (tua 28%), a dim ond chwech o’r 22 awdurdod lleol sy’n cael eu harwain gan fenywod – sef Caerffili, Casnewydd, Ceredigion, Merthyr Tudful, Powys ac Ynys Môn.
“Rydyn ni wedi gweld peth cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf i weld ein cynghorau yn dod yn llefydd mwy amrywiol, ond mae’n rhaid i ni gyflymu’r newidiadau hynny,” meddai’r Cynghorydd Jane Mudd, sy’n arwain Cyngor Casnewydd.
Ar hyn o bryd, mae’r holl awdurdodau lleol yn datblygu eu cynlluniau gweithredu eu hunain er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cynrychioli cymunedau yn well.