Mae rhai siopau ym Mhorthmadog yn cael trafferth gyda phobol yn gwrthod dilyn cyfyngiadau Covid-19, gydag un perchennog yn dweud wrth golwg360 fod pobol yn cwyno eu bod nhw’n gorfod ciwio.

Yn ôl perchennog siop arall yn y dref, lle mae achosion o’r amrywiolyn Delta wedi’u cadarnhau, y broblem fwyaf yw fod pobol yn dod i mewn heb wisgo mygydau.

Dywed un ddynes sy’n berchen siop yn y dref na welodd hi erioed gymaint o ymwelwyr yn y dref a’r ardal â’r wythnos ddiwethaf.

Er hynny, dywed fod cwsmeriaid, yn gyffredinol, yn glynu at reolau wrth siopa.

Mae’r awdurdodau yn annog pobol yn yr ardal i fynd am brawf Covid, ac mae uned brofi wedi’i lleoli yn y dref.

Pobol heb fygydau

“Y broblem fwyaf rydan ni’n gael ydi pobol yn dod i mewn heb fygydau, er bod yna arwyddion ar y drws a’r ffenest,” meddai Meryl Williams, perchennog siop Pikes ym Mhorthmadog, wrth golwg360.

“Ac wedyn rydan ni’n gofyn iddyn nhw’n neis os ydyn nhw ddim yn gorfod ei wisgo fo, ac mae yna rai ohonyn nhw’n troi a dweud ‘Na, mae gen i asthma’.

“Os ydyn nhw’n gwisgo’r lanyards yma, mae’n hawdd i ni weld. Os dydyn nhw ddim yn gwisgo dim byd i ddangos, na’n cario dim byd i ddangos, mae’n anodd iawn i ni wybod pwy sydd ddim yn gorfod gwisgo nhw a phwy sydd yn.

“Mae yna rai sy’n anghofio, rydych chi’n dallt hynny, ac maen nhw’n rhoi o ymlaen yn syth.

“Ond mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dweud ‘Na, dw i ddim yn gorfod’.

“Mae yna fwy o bobol efo fo [Covid] yn Port rŵan. Rydyn ni gyd yn y siop wedi cael y ddau frechlyn, so mae hynny’n rhywbeth.”

Dywed Meryl Williams fod yna boeni yn lleol am yr achosion o amrywiolyn Delta sydd wedi’u cadarnhau ym Mhorthmadog yn ddiweddar.

Yn enwedig am ein bod ni wedi llacio dipyn ar y cyfyngiadau rŵan; mae yna fwy o bobol yn cymysgu rŵan nag oedd yna cynt,” meddai.

Cwyno am giwio

“Be ydan ni wedi’i gael ydi pobol yn cwyno eu bod nhw’n gorfod ciwio tu allan,” meddai Paula Leflie, perchennog y siop Bocs Teganau.

“Rydyn ni ond yn gadael wyth person, dau deulu mewn ffordd, i mewn i’r siop ar y tro. Mae’n rhaid i bawb lanhau eu dwylo ar y ffordd mewn.

“Rydyn ni wedi gorfod rhoi un aelod o staff yn sefyll tu allan yn arbed pobol rhag dod i mewn, ac mewn ffordd, bron iawn eu gorchymyn nhw i lanhau eu dwylo.

“A ti’n cael pobol yn cwyno yn dweud ‘Mae hyn yn wirion, pam eich bod chi’n gofyn i ni gadw at [y cyfyngiadau]?

“Rydyn ni wedi cael lot o bobol yn dweud ‘Mae’r peth Covid yma’n hollol wirion, mae o wedi gorffen erbyn rŵan, pobol wedi cael eu vaccines, mae’n hollol iawn.’

“A ti’n trio dweud ‘Wel na, dydi pawb heb gael eu vaccine, ac mae o dal o gwmpas, mae yna bobol leol wedi testio’n positif am Covid yn yr wythnosau diwethaf yma – a maen nhw’n mynd ‘O, do’n i ddim yn gwybod hynna’.

“A ti’n meddwl, ‘Wel, na, dydych chi ddim’.

“A dydyn nhw ddim yn keen bod nhw’n gorfod ciwio. Maen nhw wedi arfer ciwio mewn llefydd eraill, arfer golchi eu dwylo mewn llefydd eraill.

“Pam bod nhw’n meddwl fod siopau bach yn wahanol?

“Ges i un dyn diwrnod o blaen, doedd o ddim am giwio ond roedd yr hogyn bach isio dod mewn. Dw i’m yn meddwl bod nhw wedi mynd dau gan llath yn diwedd, ddoth o’n ôl a joinio’r ciw.

“Mae’n rhaid iddyn nhw [giwio], os dydyn nhw ddim isio gwneud, wel dydyn nhw ddim yn dod i mewn.”

“Meddwl am bobol eraill”

“Ffordd dw i’n gweld hi: dw i’n gorfod meddwl am bobol eraill. Dw i’n gorfod meddwl am fy hun, teulu fi, teulu’r genod sy’n gweithio i fi,” meddai Paula Leflie wedyn.

“Os fyswn i’n ei ddal o, neu un o’r genod yn ei ddal o, wel mae’r siop wedi cau, ‘dydi? Dydan ni ddim yn gwmnïau mawr sydd efo digon o staff i allu cymryd drosodd, busnes teulu ydi hwn ynde.

“Os dydyn nhw ddim yn licio fo, yn anffodus, dydyn nhw ddim yn cael dod mewn, na’dyn?

“Rydyn ni wedi gweld lot, lot fawr o bobol yn prynu’r lanyards yma, felly mae yna lot o bobol yn cerdded mewn efo’r lanyards yma yn dweud eu bod nhw ddim yn gorfod gwisgo masg.

“Dw i’n cael lot yn prynu’r lanyard, ond does yna ddim bathodyn yn y gwaelod.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol, i fod yn deg, ti’n egluro bod rhaid i ni gadw bawb yn sâff… pan ti’n dweud wrthyn nhw mae rhaid nhw lanhau eu dwylo, a ti’n egluro pam, maen nhw’n dweud ‘o ia, iawn oce.’

“A ti’n egluro bod hi’n siop deganau, mae plant yn bob man, mae hi’n anodd i blant gofio eu bod nhw’n gorfod cadw pellter, maen nhw’n gweld yr holl deganau ac mae synnwyr yn mynd allan drwy’r ffenest, ‘dydi?

“Dyna pam rydyn ni’n dweud dau deulu ar y tro, dim mwy, fel bod pobol yn gallu cael cadw’n sâff.”

“Pobol yn glên, pobol yn hapus”

I’r gwrthwyneb, dywedodd Henry Davies, perchennog siop ddillad Davies, wrth golwg360 fod “pob dim wedi bod yn iawn” yn y siop, a bod pobol yn glên ac yn hapus eu bod nhw’n cael ymweld.

“O flaen eu trwynau nhw yn y drws mae yna sanitizers, mae yna sanitizers ar y tils, mae pawb yn gorfod sanitize-io, a gwisgo masgiau – rydyn ni’n dweud wrthyn nhw’n strêt.

“Mae bob dim wedi bod yn iawn, cyn belled â dw i yn y cwestiwn.

“Efallai ein bod ni wedi cael ryw un, ond i feddwl faint o filoedd o bobol sydd wedi bod yma dydi o ddim byd.

“Dim trafferth, pobol yn glên, pobol yn hapus i gael mynd allan, cael mynd i ffwrdd. Visitors, locals, pawb.

“Fel yna sydd isio bod, ynde?

“Mae pobol yn sôn amdano fo,” meddai Henry Davies wedyn am yr amrywiolyn Delta ym Mhorthmadog.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n dod mewn, maen nhw i gyd yn bihafio, i gyd yn gwneud be’ maen nhw fod i wneud.

“Ond obviously, mae yna un neu ddau o bobol leol sy’n sôn, ac maen nhw’n bryderus, ond maen nhw jyst yn mynd ymlaen efo’i bywyd a gwneud be’ maen nhw fod i’w wneud.”

‘Pobol yn glynu at reolau’

“Rydyn ni wedi cael [pobol yn gwrthod cadw at reolau] ryw unwaith, ddwy, yn y clo cyntaf,” esboniodd Linda Edwards, perchennog Siop Eifionydd, wrth golwg360.

“Rydyn ni wedi cadw’r rhaffau’n y siop fel bod hi’n system unffordd.

“Yn gyffredinol, dw i’n meddwl fod pobol yn glynu [at reolau] yma. Dydyn ni ddim wedi cael dim trafferth.

“Dw i’n meddwl fod y genod wedi gofyn i bobol roi masgiau cwpwl o weithiau. Dw i ddim yn meddwl ein bod ni fel siop yn denu lot fawr o ymwelwyr.

“Yn bersonol, mae hi wedi bod reit braf. Rydyn ni wedi gorfod rhoi’r sgrin wydr, ac mae yna jyst un yn dod at y cownter.

“Mae’n gweithio’n iawn, mae’n gweithio’n braf efo’r system unffordd, a dw i’n gweld ni’n cadw honna am sbelan achos mae’n hwyluso pethau i bawb.

“Mae yna brysurdeb arferol hyd y gwela i, ond mae hi’n dawelach o ran pobol leol dw i’n meddwl.

“Mae yna ryw brysurdeb bore, pobol yn dod allan a gwneud eu neges, does yna ddim ryw loetran fel oedd yna,” ychwanega wrth drafod yr achosion newydd sydd wedi’u cadarnhau yn yr ardal.

“Mae hwnna wedi newid, dw i’n meddwl, dydy hi ddim mor gymdeithasol yma.

“Mae yna filoedd o bobol wedi bod yma, o ran prysurdeb twristiaeth dw i erioed wedi gweld cymaint o bobol yn Port.

“Dw i’n byw ar lôn Morfa Bychan, dydd Sul diwethaf roedd yna giwio am ddwy, dair awr solat.

“Ac rydyn ni ryw ddwy filltir a hanner o’r mynediad i draeth Black Rocks, dw i ddim wedi gweld hynny.”

Amrywiolyn Delta: Annog trigolion Porthmadog i gymryd prawf Covid

Daw hyn wrth i Mark Drakeford ddweud y gallai’r amrywiolyn effeithio ar eu cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau yfory (4 Mehefin)